Mewn sawl
crefydd
, man yw
Uffern
lle y cosbir
pechaduriaid
a phobl drygionus ar ol eu marwolaeth am eu gweithredoedd pan fuont yn fyw. Fel arfer fe'i lleolir dan y ddaear ac mae'n cyfateb i raddau i'r syniad o
arallfyd
y meirw a gynrychiolir gan
Hades
ym mytholeg y byd clasurol. Dan ddylanwad
Cristnogaeth
, uniaethwyd yr
Annwn
Cymreig ag Uffern hefyd, ond math o
Baradwys
arallfydol oedd Annwn yn wreiddiol, fel y'i darlunir yn chwedl
Pwyll Pendefig Dyfed
.
Ceir sawl enw ar uffern yn y
Beibl
Cristnogol.
- Hades
[3]
:
Yr Efengyl yn ol Mathew
11:23 16:18.
Efengyl Luc
10:15.
Actau'r Apostolion
. 2:27,31.
1 Corinthiaid
15:55.
Llyfr y Datguddiad
6:8 1:18 20:13,14
- Gehenna
[4]
:
Yr Efengyl yn ol Mathew
5:22,29, 30, 10:28, 18:09, 23:15,33.
Yr Efengyl yn ol Marc
9:43,45,47,
Yr Efengyl yn ol Luc
12:05,
Llythyr Iago
3:6.