Clogwyn tywodfaen Navajo, UDA
Craig waddod
yw
Tywodfaen
.
Cwarts
a
ffelspar
sydd ynddo'n bennaf. Y rheswm am hyn yw bod cwarts yn
fwyn
cryf iawn sy'n aros ar ol hyd yn oed pan mae mwynau eraill yn diflannu oherwydd
erydiad
. Gall tywodfaen fod yn llwyd, yn felyn, yn goch neu'n wyn, yn union fel tywod ei hunan. Mae tywodfaen yn graig feddal, felly mae'n cael ei defnyddio'n aml mewn adeiladu neu gerflunwaith.
Yn wahanol i greigiau fel
sialc
neu
lo
, nid yw tywodfaen wedi'i chreu o greaduriaid neu blanhigion hynafol. Yn hytrach, mae creigiau yn cael eu erydu mewn i dywod, ac yna mae'r crisialau yn y tywod yn casglu at ei gilydd ac yn troi'n graig o dan pwysau enfawr.
Calsit
,
clai
neu
silica
sy'n cadw'r crisialau mewn tywodfaen at ei gilydd.