Naturiaethwr, darlithydd ac awdur yw
Twm Elias
(ganwyd
1947
) sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar fyd natur, hanes amaethyddiaeth, llen gwerin ac arwyddion tywydd.
Mae'n hanu o
Glynnog
yn wreiddiol ac yn byw yn
Nebo
ger
Caernarfon
. Astudiodd am radd mewn llysieueg amaethyddol ym
Mhrifysgol Bangor
cyn dilyn cwrs ymchwil yno ac yn Aberystwyth. Ers 1979 bu'n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym
Mhlas Tan y Bwlch
,
Maentwrog
gan ymddeol yn Mai 2014.
[1]
Ef oedd ysgrifennydd cyntaf
Cymdeithas Edward Llwyd
ac mae bellach yn Gadeirydd ei Phanel Enwau a Gweithgor y wefan amgylcheddol.
[2]
Mae'n awdur nifer o lyfrau ac yn olygydd y cylchgrawn
Fferm a Thyddyn
, yn gyd-olygydd
Llygad Barcud
(cylchgrawn Cymdeithas Ted Breeze Jones) ac yn gyfrannwr cyson i
Llafar Gwlad
.
[3]
Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd Orsedd yn
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011
gan dderbyn y wisg wen. Mae'n llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg ac yn aelod selog o'r rhaglen radio
Galwad Cynnar
. Mae hefyd wedi cyfrannu i raglenni eraill fel
Natur Wyllt
,
Byd Iolo
a
Seiat Byd Natur
.