Gweithred sy'n mynd yn erbyn
cytundebau
ar yr hyn a ganiateir mewn
rhyfel
neu sy'n groes i arferion rhyfel yw
trosedd rhyfel
.
[1]
Gall troseddau rhyfel gynnwyd lladd neu
arteithio
carcharorion rhyfel
, targedu y boblogaeth sifil neu ddinistrio eiddo'r boblogaeth sifil yn ddiangen.
Gosodwyd seiliau cyfraith rhyfel fodern gan Gytundebau Den Haag 1899 a 1907. Diffiniwyd troseddau rhyfel yn fanylach ar gyfer
Treialon Nuremberg
ar ddiwedd yr
Ail Ryfel Byd
.
Ar
1 Gorffennaf
,
2002
, ffurfiwyd Llys Rhyngwladol yn
Den Haag
yn
yr Iseldiroedd
gyda'r hawl i ddwyn achos yn erbyn unrhyw un am droseddau rhyfel. Fodd bynnag, gwrthododd rhai gwledydd gymeryd rhan, yn cynnwys yr
Unol Daleithiau
,
Tsieina
ac
Israel
.
- ↑
Lewis, Robyn
.
Termau Cyfraith
(Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 200.