Tomograffeg gyfrifiadurol

Oddi ar Wicipedia
Tomograffeg gyfrifiadurol
Enghraifft o'r canlynol math o brawf meddygol, delweddu meddygol  Edit this on Wikidata
Math delweddu meddygol, tomography  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dull o delweddu meddygollweddu meddygol lle gwneir delweddau o'r corff yn gyfrifiadurol gan ddefnyddio pelydrau-x yw tomograffeg gyfrifiadurol a elwir hefyd yn sganio CT [1] neu sganio CAT . [2]

Defnyddir tomogramau, sef y delweddau a gynhyrchir gan sganiau CT, gan feddygon i wneud diagnosis o gyflwr meddygol cleifion. Maent er enghraifft yn ddefnyddiol wrth wneud diagnosisau o enseffalitis a stroc .

Proses [ golygu | golygu cod ]

Claf yn derbyn sgan CT

Mae sganiwr CT yn allyrru cyfres o belydrau-x cul wrth iddo symud drwy arc i gynhyrchu delwedd fanwl o'r corff mewn haenau sydd yn fanylach na phelydr-x unigol. Gall y canfodydd pelydr-x y tu mewn i sganiwr CT gweld cannoedd o wahanol lefelau o ddwysedd, gan gynnwys meinweoedd y tu mewn i organau solet megis yr afu , ac anfonir yr wybodaeth hon at gyfrifiadur i adeiladu delwedd drawstoriadol o gorff y claf. [3]

I dderbyn sgan CT, gorwedda'r claf ar wely symudol y tu mewn i'r peiriant sganio. Wedi i bob pelydr-x gael ei chwblhau, bydd y gwely yn symud ymlaen ychydig. Gofynnir i'r claf orwedd yn llonydd iawn tra bydd pob sgan yn cael ei gymryd er mwyn osgoi niwlo'r delweddau. Gan fod cymaint o sganiau yn cael eu gwneud mae'n bosib i'r weithdrefn gyfan gymryd hyd at 30 munud. Os yw'r claf yn teimlo'n bryderus mae'n bosib y caiff dawelydd . [4]

Gan ddibynnu ar y rhan o'r corff sy'n cael ei harchwilio, gall lliwur gwrthgyferbynnu gael ei ddefnyddio i wneud i rai meinweoedd ymddangos yn fwy clir o dan belydr-x. Defnyddiwr ar gyfer sganiau'r ymennydd i amlygu tiwmorau a sganiau'r frest i alluogi meddygon ddarganfod a oes modd tynnu tiwmor drwy lawdriniaeth neu beidio, ac yn achos sganiau'r abdomen gall defnyddio uwd bariwm fel cyfrwng gwrthgyferbynnu sydd yn ymddangos yn wyn ar y sganiau wrth iddo symud drwy'r llwybr treulio . [3]

Diagnosteg [ golygu | golygu cod ]

Mae sganiau CT o ddefnydd diagnostig yn enwedig o ran y pen a'r abdomen. Defnyddir hwy i gynllunio trefniadau triniaeth radiotherapi , i asesu clefydau fasgwlaidd , i sgrinio am glefyd y galon a'r hasesu, i asesu anafiadau a chlefydau'r esgyrn yn enwedig yr asgwrn cefn , i gael gwybod dwysedd esgyrn wrth archwilio osteoporosis , ac i arwain gweithdrefnau biopsi ar gyfer tynnu samplau o feinwe. [5]

Pen [ golygu | golygu cod ]

Sgan CT o ymennydd gydag hydroceffalws

Mae sganiau CT ar y pen yn ffordd effeithiol o archwilio'r pen a'r ymennydd am diwmorau tybiedig, gwaedu , a rhydweliau wedi chwyddo. Maent hefyd o ddiben ar gyfer archwilio'r ymennydd yn dilyn stroc. [5] Defnyddir sgan CT yngh?d a sgan MRI i wneud diagnosis o enseffalitis gan eu bod yn dangos mannau o chwyddo ac edema (dropsi) yn yr ymennydd, sydd o gymorth wrth wahaniaethu rhwng enseffalitis ac afiechydon eraill megis tiwmor neu stroc. [6]

Abdomen [ golygu | golygu cod ]

Defnyddir sganiau CT abdomenol i ddod o hyd i diwmorau, i wneud diagnosis o gyflyrau lle bydd yr organau mewnol yn chwyddo neu'n llidus , ac i ddatgelu rhwygiadau'r ddueg , yr arennau neu'r afu , fel y gallant ddigwydd mewn damweiniau traffig ffordd difrifol. [5]

Risgiau [ golygu | golygu cod ]

Gweithdrefn ddi-boen yw sgan CT [7] ac yn gyffredinol fe'i ystyrir yn ddiogel iawn. [8] Mae'n broses gyflym sydd yn dileu'r angen am lawdriniaeth fewnwthiol . Ond mae sganiau CT yn golygu amlygiad i ymbelydredd ar ffurf pelydrau-x, ac er cedwir lefel yr ymbelydredd a ddefnyddir i isafbwynt i atal niwed i gelloedd y corff, mae'r amlygiad i ymbelydredd yn dibynnu ar nifer y delweddau sydd angen eu cymryd. Ni wneir sganiau CT ar fenywod beichiog gan fod ychydig o risg y gallai'r pelydrau-x achosi annormaledd yn yr embryo / ffetws . Mae'n bosib i iodin , sydd yn aml yn sylwedd mewn y lliwur gwrthgyferbynnu a ddefnyddir mewn sganiau CT, achosi adwaith alergaidd mewn rhai pobl. Oherwydd y risgiau uchod fe ofynnir i gleifion cyn derbyn sgan CT os ydynt yn credu y gallent fod yn feichiog, neu os oes unrhyw alergeddau ganddynt. Yn achlysurol iawn gall y lliwur achosi rhywfaint o niwed i'r arennau mewn pobl sydd eisoes a phroblemau'r arennau. Cynghorir i famau sy'n bwydo ar y fron aros am 24 awr yn dilyn pigiad y gwrthgyferbyniad cyn ailddechrau bwydo ar y fron . [8]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. O'r Saesneg : computed tomography .
  2. O'r Saesneg: computed axial tomography .
  3. 3.0 3.1   Sgan CT: Sut mae'n gweithio? . Gwyddoniadur Iechyd . Galw Iechyd Cymru . Adalwyd ar 15 Medi, 2009.
  4.   Sgan CT: Sut mae'n cael ei wneud? . Gwyddoniadur Iechyd . Galw Iechyd Cymru . Adalwyd ar 16 Medi, 2009.
  5. 5.0 5.1 5.2   Sgan CT: Beth yw ei ddiben? . Gwyddoniadur Iechyd . Galw Iechyd Cymru . Adalwyd ar 16 Medi, 2009.
  6.   Enseffalitis: Diagnosis . Gwyddoniadur Iechyd . Galw Iechyd Cymru . Adalwyd ar 16 Medi, 2009.
  7.   Sgan CT: Cyflwyniad . Gwyddoniadur Iechyd . Galw Iechyd Cymru . Adalwyd ar 13 Medi, 2009.
  8. 8.0 8.1   Sgan CT: Risgiau . Gwyddoniadur Iechyd . Galw Iechyd Cymru . Adalwyd ar 13 Medi, 2009.

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]