Roedd Tom Rees ( 18 Mai 1895 - 17 Medi 1916 ) yn swyddog o'r Fyddin Brydeinig a wasanaethodd yn y Royal Flying Corps yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf . Gan ymuno a'r fyddin yn gynnar yn 1915, cododd Rees i safle'r is-gapten cyn ei ben-blwydd yn ugain oed ac yn y pen draw daeth yn gapten ar ddiwrnod ei farwolaeth. Cafodd ei ladd ar 17 Medi 1916 wrth hedfan fel arsyllwr mewn awyren F.E.2b, a saethwyd lawr gan Manfred von Richthofen , yr awyrenwr Almaenig a elwid yn ddiweddarach y "Barwn Coch". Yr awyren oedd y cyntaf o 80 buddugoliaeth ymladd awyr gan Richthofen.