Tiger Woods
|
---|
|
Ffugenw
| Tiger Woods
|
---|
Ganwyd
| Eldrick Tont Woods
30 Rhagfyr 1975
Cypress
|
---|
Man preswyl
| Windermere, Florida
, Jupiter Island,
Orange County
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| ysgrifennwr
, golffiwr, animal trainer
|
---|
Taldra
| 185 centimetr
|
---|
Pwysau
| 84 cilogram
|
---|
Tad
| Earl Woods
|
---|
Mam
| Kultida Woods
|
---|
Priod
| Elin Nordegren
|
---|
Partner
| Lindsey Vonn
|
---|
Gwobr/au
| Sports Illustrated Sportsperson of the Year, Best Breakthrough Athlete ESPY Award, Best Male Athlete ESPY Award, Showstopper of the Year ESPY Award, Sports Illustrated Sportsperson of the Year, Laureus World Sports Award for Sportsman of the Year, BBC World Sport Star of the Year, Best Male Athlete ESPY Award, Best Male Golfer ESPY Award, Laureus World Sports Award for Sportsman of the Year, Best Championship Performance ESPY Award, Best Male Athlete ESPY Award, Best Male Golfer ESPY Award, Best Male Athlete ESPY Award, Best Male Golfer ESPY Award, Best Record-Breaking Performance ESPY Award, Best Male Golfer ESPY Award, Best Golfer ESPY Award, Best Golfer ESPY Award, Best Golfer ESPY Award, Best Golfer ESPY Award, Best Male Athlete ESPY Award, Best Male Golfer ESPY Award, Best Male Golfer ESPY Award, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Neuadd Enwogion California, L'Equipe Champion of Champions, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year
|
---|
Gwefan
| https://tigerwoods.com/
|
---|
Chwaraeon
|
---|
Tim/au
| Stanford Cardinal men's golf
|
---|
Gwlad chwaraeon
| Unol Daleithiau America
|
---|
llofnod
|
---|
|
Golffiwr
proffesiynnol o'r
Unol Daleithiau
yw
Eldrick "Tiger" Woods
(ganed
30 Rhagfyr
1975
).
[1]
[2]
Caiff ei ystyried yn un o olffwyr Americanaidd mwyaf llwyddiannus erioed. Bu ar Restr Forbes o olffwyr sydd wedi derbyn y cyflogau uchaf erioed hefyd. Mae ei lwyddiannau yn nhaith y
Proffesional Golfers Association
yn rhai syfrdanol.
Bu mewn coleg golff am ddwy flynedd a throdd yn brioffesiynol yn Haf 1996, yn 20 oed. Erbyn Ebrill y flwyddyn wedyn, roedd wedi ennill un o brif gystadleuthau mawr y byd - Pencampwriaeth Agored
Unol Daleithiau America
, 1997, gan bocedu $486,000. Ym Mehefin 1997 ef oedd golffiwr gorau'r byd (Rhif Un ar Restr
Official World Golf Ranking
). Drwy'r
2000au
fe'i hystyriwyd fel golffiwr gorau'r byd.
Rhwng Rhagfyr 2009 ac Ebrill 2010, fodd bynnag, ni chwaraeodd golff, a chanolbwyntiodd ar ei fywyd priodasol gydag Elin Nordegren. Roedd hyn yn dilyn cyfnod o fercheta gydag eraill, a chawsant ysgariad. Cyhoeddwyd sawl stori amdano, gyda nifer o ferched yn hawlio iddynt gael affer gydag ef. Cafodd y cyfnod hwn effaith negyddol iawn ar ei gem, gan ddisgyn i Rif 58 yn Nhachwedd 2011.
[3]
Wedi 107 wythnos o fethu a chipio unrhyw wobr, enillodd y
Chevron World Challenge
. Enillodd yr
Arnold Palmer Invitational
ar 25 Mawrth 2013 a chododd yn ei ol i Rif 1, drwy'r byd. Daliodd ei afael ar hwnnw hyd at Mai 2014.
Derbyniodd lawdriniaeth ar ei gefn ddwywaith yn Ebrill 2014 a Medi 2015.
[4]
Erbyn Mawrth 2015 roedd yn Rhif 104.
[5]
In May 2016, Woods dropped out of the world top 500 for the first time in his professional career.
[6]