Mae
Tibet
yn enw cyffredin ar dalaith hunanlywodraethol yng ngorllewin
Gweriniaeth Pobl Tsieina
, a adwaenir yn swyddogol fel
Rhanbarth Ymreolaethol Tibet
, a hefyd ar y wlad hanesyddol o'r un enw, oedd a ffiniau gwahanol. Y brifddinas yw
Lhasa
. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y wlad hanesyddol.
Mae'r ardal yn fynyddig, ac yn cynnwys mynydd uchaf y byd,
Mynydd Everest
, ar y ffin a
Nepal
. Ond mae'n wlad o lwyfandiroedd uchel anferth hefyd, lled-anial, gyda nifer mawr o lynnoedd sy'n cynnwys llynnoedd sanctaidd fel
Llyn Manasarovar
a
Llyn Rakshastal
.
Mae hanes hir Tibet yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn gorwedd yng nghanol
Asia
.
Yn 1959 meddiannwyd Tibet gan China, a sefydlodd y 14eg
Dalai Lama
lywodraeth mewn alltudiaeth yn
Dharamsala
yng ngogledd
India
.
Rhennid teyrnas Tibet yn dair rhanbarth hanesyddol, sef:
- Amdo
(gogledd-ddwyrain)
- Kham
(de-ddwyrain)
- U-Tsang
(canolbarth a gorllewin)
O'r tair rhanbarth hyn dim ond
U-Tsang
a rhan o orllewin
Kham
sy'n cael eu cynnwys yn Rhanbarth Ymreolaethol Tibet. Mae Amdo wedi ei throi yn dalaith
Qinghai
.
Bwdhaeth Tibet
neu Fwdhaeth Dibetaidd yw'r enw a arferir am y gangen o
Fwdhaeth
a ddatblygodd i fod yn grefydd mwyafrif llethol y Tibetiaid. Yn ogystal ceir rhai pobl sy'n dal i ddilyn y grefydd
Bon
, cyn-Fwdhaidd, a cheir poblogaethau
Mwslim
mewn rhannau o'r wlad hefyd, yn enwedig yn y gogledd.
Tibeteg
yw prif iaith yr ardal. Tafodiaith Lhasa (U-Tsang) yw'r
lingua franca
draddodiadol ac iaith
llenyddiaeth Dibeteg
.