Hanesydd a chadfridog Groegaidd oedd
Thucydides
(
Hen Roeg
: Θουκυδ?δη?,
Thoukydid?s
) (c.
460 CC
? c.
400 CC
. Mae'n enwog fel awdur
Hanes Rhyfel y Peloponnesos
, sy'n rhoi hanes
Rhyfel y Peloponnesos
rhwng
Athen
a
Sparta
yn rhan olaf y
5 CC
. Ystyrir mai ef oedd yr hanesydd cyntaf i gasglu tystiolaeth yn fanwl ac yn feirniadol.
Nid oes llawer o wybodaeth am ei fywyd; ceir y rhan fwyaf o'i waith ef ei hun. Roedd yn Atheniad, yn fab i
Olorus
. Gyrrwyd ef fel cadfridog i
Thasos
yn
424 CC
oherwydd ei ddylanwad yn
Thrace
. Yn ystod gaeaf 424-423 CC, ymosododd
Brasidas
o Sparta ar
Amphipolis
, hanner diwrnod o hwylio o Thasos. Gyrroedd Eucles, yr arweinydd Athenaidd yn Amphipolis, at Thucydides am gymorth, ond erbyn i Thucydides gyrraedd, roedd y ddinas eisoes wedi ildio. Cyhuddwyd Thucydides o fod yn gyfrifol am fod y ddinas wedi ei cholli, ac alltudiwyd ef.
Ymddengys iddo fynd i fyw ar ei stad yn Thrace, a defnyddio ei amser ar gyfer ymchwilio ac ysgrifennu ei hanes. Mae yr hanes yn gorffen yn sydyn yn
411 CC
, cyn diwedd y rhyfel, efallai am fod Thucydides wedi marw, ond cynigiwyd rhesymau eraill hefyd.