Hanesydd, beirniad ac awdur Cymreig oedd
Thomas Stephens
(
21 Ebrill
1821
-
4 Ionawr
1875
). Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y llyfr dylanwadol
The Literature of the Kymry
(1849).
Ganed ef ym
Mhont Nedd Fechan
,
Morgannwg
(de
Powys
heddiw), yn fab i grydd. Dim ond tua tair blynedd o addysg ffurfiol a gafodd, cyn mynd yn brentis i fferyllydd yn nhref
Merthyr Tydfil
yn
1835
. Yn ddiweddarach daeth yn berchen ar y siop fferyllydd ac yn ?r amlwg ym mywyd y dref; ef oedd prif sylfaenydd Llyfrgell Merthyr.
Daeth yn amlwg fel eisteddfodwr, ac yn Eisteddfod y Fenni yn
1848
enillodd wobr am draethawd ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfnod
y Gogynfeirdd
. Hwn oedd sail ei lyfr diweddarch,
The Literature of the Kymry
. Yn
Eisteddfod Fawr Llangollen
yn
1858
, collodd y wobr am draethawd ar ddarganfyddiad America gan
Madog
am fod ei draethawd ef yn casglu nad oedd gwir yn y chwedl; cyhoeddwyd hwn yn ddiweddarch.
- The Literature of the Kymry
(
1849
)
- The History of the Trial by Jury in Wales
- Orgraff yr Iaith Gymraeg
(gyda
Gweirydd ap Rhys
) (1859)
- Madoc: an Essay on the Discovery of America by Madoc ap Owen Gwynedd in the Twelfth Century
(1893)