Thomas Jefferson
|
---|
|
Ganwyd
| 2 Ebrill 1743 (yn y
Calendr Iwliaidd
)
Shadwell
|
---|
Bu farw
| 4 Gorffennaf 1826
o wremia
Monticello
|
---|
Man preswyl
| Monticello, Hotel de Langeac
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| - Coleg William & Mary
|
---|
Galwedigaeth
| athro
, cryptograffwr,
pensaer
,
cyfreithiwr
,
ysgrifennwr
, diplomydd,
gwleidydd
, athronydd,
dyfeisiwr
,
ffermwr
,
gwladweinydd
, archeolegydd,
cyfreithegwr
|
---|
Swydd
| Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau
,
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau
, llysgennad yr Unol Daleithiau i Ffrainc, Governor of Virginia,
Arlywydd yr Unol Daleithiau
, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, member of the Virginia House of Delegates
|
---|
Prif ddylanwad
| Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury
|
---|
Taldra
| 1.89 metr
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Democratic-Republican Party
|
---|
Tad
| Peter Jefferson
|
---|
Mam
| Jane Randolph Jefferson
|
---|
Priod
| Martha Jefferson
|
---|
Plant
| Martha Jefferson Randolph, Mary Jefferson Eppes, Madison Hemings, Harriet Hemings, Eston Hemings, Jane Randolph Jefferson, unnamed son Jefferson, Lucy Elizabeth Jefferson I, Lucy Elizabeth Jefferson II
|
---|
Perthnasau
| Dabney Carr
|
---|
Gwobr/au
| Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America
|
---|
llofnod
|
---|
|
Thomas Jefferson
(
13 Ebrill
1743
?
4 Gorffennaf
1826
) oedd trydydd
Arlywydd yr Unol Daleithiau
, o
1801
hyd
1809
. Bu hefyd yn
Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau
rhwng
1797
a
1801
ac yn llywodraethwr talaith
Virginia
(
1779
-
1781
). Ef oedd prif awdur
Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau
a sylfaenydd
Prifysgol Virginia
.
Ganed Jefferson yn
Shadwell
, Virginia ar yr
2 Ebrill
1743
, yn ol y
Calendr Iwlaidd
oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr
Ymerodraeth Brydeinig
yr adeg honno, neu
13 Ebrill
yn ol
Calendr Gregori
a fabwysiadwyd yn
1752
. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio
Lladin
,
Groeg
a
Ffrangeg
. Bu farw ei dad yn
1757
ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn
Monticello
.
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng
1758
a
1760
, ac aeth i'r coleg yn
Williamsburg
yn 16 oed, lle bu'n astudio dan
William Small
. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn
1767
.
Yn
1772
, priododd wraig weddw,
Martha Wayles Skelton
(1748-1782). Cawsant chwe phlentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision,
Sally Hemings
, a phrofwyd hyn gan dystiolaeth DNA ym 1998,
[1]
ond mae ychydig o ysgolheigion yn dadlau'r posibilrwydd taw brawd neu un o neiod Jefferson oedd tad y plant.
[2]
Bu farw yn Monticello
4 Gorffennaf
1826
.
Yn ol traddodiad y teulu, roedd Jefferson o
dras Cymreig
, a'r teulu yn hanu o
Eryri
. Yn ystod yr
Eisteddfod Genedlaethol
yn y
Faenol
ger
Bangor
yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffau ei gysylltiad a'r ardal.