Thelonious Monk
|
---|
|
Ganwyd
| Thelious Monk Jr.
10 Hydref 1917
Rocky Mount, Gogledd Carolina
|
---|
Bu farw
| 17 Chwefror 1982
Weehawken, New Jersey
|
---|
Man preswyl
| Rocky Mount, Gogledd Carolina
,
New Jersey
|
---|
Label recordio
| Blue Note, Prestige, Columbia Records, Riverside, Charly Records
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| - Stuyvesant High School
|
---|
Galwedigaeth
| pianydd
,
cyfansoddwr
, cerddor jazz,
cerddor
, artist recordio
|
---|
Arddull
| jazz
, bebop, hard bop, stride piano, cool jazz
|
---|
Priod
| Nellie Monk
|
---|
Plant
| T. S. Monk
|
---|
Perthnasau
| Angelika Beener
|
---|
Gwobr/au
| Cymrodoriaeth Guggenheim
, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Pulitzer Prize Special Citations and Awards, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood
|
---|
Gwefan
| http://www.monkzone.com/
|
---|
Pianydd
a chyfansoddwr
jazz
Americanaidd
oedd
Thelonious Sphere Monk
(
10 Hydref
1917
?
17 Chwefror
1982
).
Ganwyd yn Rocky Mount,
Gogledd Carolina
, a symudodd i
Manhattan
,
Dinas Efrog Newydd
, yn 4 oed a bu'n byw yno am weddill ei fywyd. Yn y 1930au a'r 1940au canodd biano yn
Minton's Playhouse
yn
Harlem
, ac yno cafodd ddylanwad ar gerddorion a ddatblygodd yr arddull
bebop
.
[1]
Ym 1951 treuliodd 60 niwrnod mewn carchar am feddu ar gyffuriau, er y mae'n debyg yr oedd yn ddieuog. O ganlyniad collodd ei
Gerdyn Cabaret
a chafodd effaith drom ar ei yrfa. Ym 1957, gyda chymorth
Pannonica de Koenigswarter
, ad-enillodd ei gerdyn gan ei alluogi i berfformio yng nghlwb y Five Spot. Yn y 1960au perfformiodd mewn pedwarawd gyda
Charlie Rouse
mewn clybiau, cyngherddau a gwyliau cerddorol ar draws y byd. Perfformiodd yn llai aml yn y 1970au oherwydd salwch. Bu farw yn 64 oed ar ol cael
stroc
.
[1]
Cafodd Monk ddylanwad sylweddol ar jazz modern, yn enwedig ar waith
George Russell
,
Randy Weston
, a
Cecil Taylor
. Ym 1997 canfuwyd 4000 o oriau o recordiadau gan Monk a cherddorion jazz eraill megis
Charles Mingus
a
Sonny Rollins
.
[2]