Mae
The X Factor
yn rhaglen deledu a ddechreuodd ym Mhrydain. Cafodd y rhaglen ei dyfeisio er mwyn disodli'r rhaglen hynod boblogaidd
Pop Idol
. Mae'r cystadlaethau sydd bellach yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o wledydd, yn cynnwys nifer o'r cyhoedd sy'n dymuno bod yn gantorion
pop
.
Mae'r "X Factor" yn cyfeirio at "rywbeth" na ellir ei ddiffinio sydd yn gwneud rhywun yn seren. Gan amlaf cytundeb recordio yw'r wobr yn ogystal a'r cyhoeddusrwydd mae'r rhaglenni olaf y gyfres yn darparu, nid yn unig i'r enillydd ond hefyd i'r cystadleuwyr eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.