Ffilm ddrama Prydeinig ydy
The Queen
, a ysgrifennwyd gan Peter Morgan ac a gyfarwyddwyd gan Stephen Frears.
Helen Mirren
sydd yn chwarae rol y prif gymeriad sef y
Frenhines Elizabeth II
. Rhyddhawyd y ffilm bron i ddegawd ar ol marwolaeth
Diana, Tywysoges Cymru
, ym
1997
ac mae'r ffilm yn darlunio'r cyfnod yn union wedi'r digwyddiad trychinebus. Dyma oedd y cyfnod hefyd pan oedd y Prif Weinidog
Llafur
y Deyrnas Unedig,
Tony Blair
newydd ddod i b?er.
Mae'r ffilm yn canolbwyntio yn bennaf ar y safbwyntiau gwahanol yngl?n a'r ffordd orau i ymdrin a marwolaeth Diana. Gwel y Frenhines, yn ogystal a'i gwr a'i mam, ei marwolaeth fel mater preifat ac na ddylai ei marwolaeth gael ei drin fel marwolaeth Brenhinol swyddogol. Cyferbynia hyn gyda safbwynt y Prif Weinidog newydd, Tony Blair, a chyn-wr Diana, y
Tywysog Charles
sydd yn awyddus i geisio adlewyrchu dyheadau'r cyhoedd gyda ffordd gyhoeddus o ddangos galar. Caiff materion eu cymhlethu ymhellach gan y cyfryngau, protocol brenhinol yngl?n a statws swyddogol Diana a safbwyntiau ehangach am Weriniaetholdeb. Trwy gydol y ffilm, dim ond trwy gymeriadau eraill y gwelwn ac y clywn am safbwyntiau meibion Diana.