Ffilm
gomedi ramantaidd Ffrengig yw
The Artist
a ryddhawyd yn 2011, a gyfarwyddwyd gan
Michel Hazanavicius
ac yn serennu
Jean Dujardin
a
Berenice Bejo
. Lleolir yn
Hollywood
rhwng 1927 a 1932 ac mae'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng seren
ffilm fud
ac actores ifanc wrth i
ffilmiau sain
ddod yn boblogaidd. Mae mwyafrif y ffilm yn fud, heblaw am drac sain cerddorol.
Yng
Ngwobrau Ffilm yr Academi Brydeinig
, enillodd
The Artist
saith gwobr: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau (Dujardin), Sgript Wreiddiol Orau, Sinematograffeg, Dylunio Gwisgoedd, a Sgor Wreiddiol. Enillodd tri
Golden Globe
: Ffilm Orau (Sioe gerdd neu Gomedi), Actor Gorau (Sioe gerdd neu Gomedi), a Sgor Gerddorol Orau. Yn
84fed seremoni wobrwyo yr Academi
, enillodd y ffilm pump
Oscar
: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau, Dylunio Gwisgoedd, a Sgor Wreiddiol.