Sefydlwyd
Teyrnas Valencia
(
Regne de Valencia
) yng ngogledd-ddwyrain
Sbaen
yn
1237
, fel is-deyrnas gan
Goron Aragon
. Parhaodd hyd
1707
. Roedd ei ffiniau yn debyg i ffiniau
Cymuned Ymreolaethol Valencia
heddiw.
Yn ystod y
Reconquista
ar
Benrhyn Iberia
, fe oresgynodd y Cristionogion y
taifas
(teyrnasoedd)
Islamaidd
oedd yn ffurfio
Al-Andalus
. Erbyn 1237 roedd taifa Balansiya (Valencia) wedi ei choncro gan
Iago I, brenin Aragon
. Tros y blynyddoedd nesaf, ymestynwyd ei ffiniau tua'r de.
Parhaodd y boblogaeth Fwslimaidd flaenorol, y
mudejar
, yma nes i'w disgynyddion, y
Morisgiaid
, gael eu gyrru allan yn 1609. Cyrhaeddodd y deyrnas uchafbwynt ei grym yn rhan gyntaf y
15g
.