한국   대만   중국   일본 
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
[[File:Coat of Arms of the United Kingdom (1801-1816).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1801-1816).svg, Coat of Arms of the United Kingdom (1816-1837).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1816-1837).svg, Coat of arms of the United Kingdom (1901-1952).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1837-1952).svg|100px|upright=1]]
Math gwlad ar un adeg  Edit this on Wikidata
Prifddinas Llundain   Edit this on Wikidata
Poblogaeth 45,370,530, 16,345,646, 42,769,196  Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Anthem God Save the King   Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon   Edit this on Wikidata
Arwynebedd 315,093 km²  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.507222°N 0.1275°W  Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Senedd y Deyrnas Unedig   Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Prydain Fawr ac Iwerddon  Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Sior V, brenin y Deyrnas Unedig   Edit this on Wikidata
Map
Arian punt sterling   Edit this on Wikidata

Ym 1801 , gan weithredu Deddf Uno 1800 , cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr a Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603 ) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon . Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922 , allan o 26 o siroedd Iwerddon , parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927 .

Nodweddir hanes y deyrnas gan dwf yr Ymerodraeth Brydeinig , a gyrhaeddodd ei hanterth yn oes y frenhines Victoria . Y ffactor bwysicaf yn hanes mewnol y deyrnas efallai oedd y galwadau cynyddol am ymreolaeth neu hunanreolaeth i Iwerddon , Cymru a'r Alban . Arweiniodd hyn yn y pen draw at sefydlu Saorstat Eireann a rhwygo'r wladwriaeth a'i hailenwi. Prin y ceir blwyddyn yn hanes y deyrnas na welwyd ei lluoedd arfog yn ymladd rhywle yn y byd, e.e. y Rhyfeloedd Napoleonaidd , Rhyfel Crimea , Rhyfel y Boer a'r Rhyfel Byd Cyntaf .

Brenhinoedd a breninesau Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon [ golygu | golygu cod ]

Dyma restr o frenhinoedd a breninesau'r deyrnas Unedig o 1801 hyd 1927.

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato