Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Aelodau'r teulu brenhinol yn 2012

Cyfeiria'r term Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig at deulu'r 'Windsors' sydd wedi etifeddu'r teitl, yr arian a'r sylw o fod yn frenhiniaeth y DU .

Aelodau'r teulu brenhinol presennol [ golygu | golygu cod ]

Ffasgiaeth a theulu brenhinol Lloegr [ golygu | golygu cod ]

Mae'r gwaed Almaenaidd yn nheulu brenhinol Lloegr yn gryf: roedd llinach uniongyrchol Sior VI ac Edward VIII drwy eu mam Mair o Teck a'u hen-daid y tywysog Albert . Roedd gan y Tywysog Philip bedair chwaer ac roedd tair ohonynt yn aelodau o blaid y Natsiaid ac un yn briod gyda pheilot awyrennau'r Luftwaffe . Ni wahoddwyd teulu Philip i'w brodas gydag Elisabeth (brenhines Lloegr) yn 1947 oherwydd y cyswllt agos hwn gyda'r Almaen, mor fuan ar ol y Rhyfel. [1]

Yr un amser, roedd eraill ar wahan i'r teulu brenhinol yn cysylltu eu hunain gyda'r Natsiaid (yn bennaf gan ei fod yr unig fygythiad i Gomiwnyddiaeth), gan gynnwys tim pel-droed cenedlaethol Lloegr . Rhoddodd pob un o'r tim saliwt Natsiaidd cyn y gem yn Stadiwm Olympaidd Berlin yn 1938, er fod Adolf Hitler ychydig fisoedd ynghynt wedi goresgyn Awstria .

Ceir llawer o luniau o Edward VIII yn rhoi saliwt Natsiaidd a llawer o luniau'n cofnodi iddo gyfarfod Hitler a'i swyddogion yn 1937 a chyn hynny. [1] Hyd yn oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd ei ymlyniad i'r Almaen yn fwy nag i Brydain, fel y dywedodd, " It would be a tragic thing for the world if Hitler was overthrown. Hitler is the right and logical leader of the German people. Hitler is a very great man. "

Yng Ngorffennaf 2015 cyhoeddodd papur y Sun luniau allan o fideo a gymerwyd yn 1933 neu 1934 yn dangos Elisabeth, brenhines Lloegr, yn rhoi saliwt Natsiaidd, yng Nghastell Balmoral gyda'i hewyrth Edward a goronwyd yn frenin Edward VIII yn ddiweddarach. Achosodd hyn embaras mawr i'r teulu brenhinol, gan godi hen grachen cysylltiad Ffasgiaeth a theulu brenhinol Lloegr.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 The Observer ; 19 Gorffennaf 2015; tud. 2.
Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .
Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato