Tegan
yw unrhyw beth a ddefnyddir ar gyfer
chwarae
; yn enwedig eitemau sydd wedi ei gwneud yn arbennig ar gyfer chwarae. Cysylltir teganau yn arbennig a
phlant
ac
anifeiliaid anwes
, ond gall pobl mewn oed, a hyd yn oed ambell rywogaeth o anifail gwyllt, chwarae a theganau.
Ystyrir chwarae yn ddull pwysig o helpu plant i ddarganfod mwy am y byd a datblygu eu cyneddfau. Cafwyd hyd i deganau ar safleoedd
archaeolegol
sy'n dyddio o gyfnodau cynnar iawn; er enghraifft o safleoedd
Gwareiddiad Dyffryn Indus
yn dyddio o 3000-1500 CC. Un o'r teganau cynharaf yw'r ddol, cafwyd hyd i lawer o'r rhain ar safleoedd o'r
Hen Aifft
, gyda gwallt gosod a brechiau a choesau y gellid eu symud.