Ynys
a thalaith yng
Nghymanwlad Awstralia
(neu
Awstralia
) yw
Tasmania
(
Tasmanieg
:
Lutruwita
). Mae
cyfandir
Awstralia yn gorwedd i’r gogledd o’r ynys a'r
Antarctig
i’r de ohoni. I'r dwyrain, rhwng yr ynys a
Seland Newydd
, ceir
Mor Tasman
. Cafodd ei enwi ar ol y fforiwr o'r
Iseldiroedd
,
Abel Janszoon Tasman
. Tasmania yw'r chweched ar hugain fwyaf o ynysoedd y byd yn ddaearyddol. Mae 484,700 o bobl yn byw yn Nhasmania (Mawrth 2005, ABS).
Prifddinas Tasmania yw
Hobart
. Mae dinasoedd eraill yn cynnwys
Launceston
yn y gogledd a
Devonport
a
Burnie
yn y gogledd-orllewin.
Cyrhaeddodd y bobl gyntaf Dasmania rhwng tua 29,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ol.
Sefydlodd llywodraeth
Prydain Fawr
y drefedigaeth gosbol gyntaf ar yr ynys yn
1803
, yn
Hobart
. Roedd y gwladychwyr cyntaf gan amlaf yn garcharion a'u gwarchodwyr, a weithiai i ddatblygu
diwydiant
ac
amaeth
. Mae'r trefedigaethau cosbol eraill yn cynnwys
Port Arthur
a
Macquarie Harbour
.
Chwaraeon mwyaf poblogaidd Tasmania yw
criced
a
phel-droed rheolau Awstralaidd
.