Dyfais symudol, electronig yw'r
tabled cyfrifiadurol
, neu'n syml:
tabled
neu
llechen
. Mae'n defnyddio system weithredu (OS) symudol (fel y
ffon llaw
) a
sgrin gyffwrdd
LCD a batri gwefrol (ailwefradwy) mewn un pecyn tenau, fflat. Gall faint y tabled amrywio, ond ar gyfartaledd maent yn 18
cm
(7
modfedd
) yn groesgornel, gyda gallu wi-fi yn unig, ar wahan i'r tabledi drytaf sydd a chysylltiad cellog i'r we.
[1]
[2]
[3]
Mae'r tabled yn fath o gyfrifiadur, ond gyda llai o fewnbwn / allbwn oherwydd ei faint (e.e. dim cysylltiad
USB
); defnyddir stylws, pensil neu fysedd i fforio o gwmpas y sgrin yn hytrach na'r llygoden arferol. Gellir hefyd ei reoli gydag ystumiau e.e. symudiadau'r dwylo neu'r llaw, neu gydag chyfarwyddiadau lleisiol. Mae rhan fwyaf o'r dyfeisiau yma yn defnyddio rhith-fysellfwrdd ar y sgrin, ond gellir cysylltu un real drwy
Bluetooth
diwifr, os oes angen.
Lansiwyd un o'r tabledi cyntaf, sef yr iPad gan
Apple Inc.
yn 2010,
[4]
a daeth yn boblogaidd iawn dros nos. Cyrhaeddwyd anterth y gwerthiant yng nghanol y ddegawd honno, gyda'r prisiau rhwng chwarter a hanner y
gliniadur
.
[5]
[6]
[7]
[8]