Mae
Tim rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin
, neu'r
Pwmaod
, yn cynrychioli'r Ariannin mewn gemau rhyngwladol
rygbi'r undeb
. Trefnir y tim, sy'n chwarae mewn glas golau a gwyn, gan Undeb Rygbi'r Ariannin (UAR, o'r Sbaeneg:
Union Argentina de Rugby
).
Chwaraeodd y tim eu gem cyntaf yn 1910 yn erbyn
tim Ynysoedd Prydain
. Ym mis Ebrill 2013 cafodd eu graddio yn wythfed yn y byd gan y
Bwrdd Rygbi Rhyngwladol
(BRRh), sef y tim cryfaf ar gyfandir America. Mae'r Ariannin wedi cystadlu ym mhob
Cwpan y Byd
ers y cwpan cyntaf yn 1987. Mae'r tim hefyd wedi ennill pob gem yn eu hanes yn erbyn timau o gyfandir America, heblaw am ddwy golled yn erbyn Canada.
Serch bod pel-droed yn fwy poblogaidd na rygbi yn yr Ariannin, Mae canlyniadau ardderchog y
Pumas
ers Cwpan Rugbi'r Byd 1999 wedi amlhau poblogrwydd y gem yn arwyddocaol. Mae'r Ariannin wedi cwblhau nifer o fuddugoliaethau annisgwyl, yn arbennig yn Buenos Aires, ac yn gallu trechu timau Chwe Gwlad yn reolaidd. Cafodd yr Ariannin eu graddio yn bedwerydd gan y BRRh ar ol buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn
Ffrainc
yng ngem cyntaf Cwpan Rygbi'r Byd 2007. Enillodd yr Ariannin eu gr?p heb golli gem, a chyrraeddodd y tim y rownd gynderfynol am y tro cyntaf, yn ennill 19?13 yn erbyn
yr Alban
yn y rownd gogynderfynol. Collasant 37?13 i
Dde Affrica
yn y rownd gynderfynol, ond enillodd y tim gem y trydydd safle, yn erbyn Ffrainc eto.
Dechreuodd y
Pumas
Cwpan Rygbi'r Byd 2011 gan golli 13?9 i
Loegr
, ar ol arwain y gem am fwy na 60 munud. Enillodd y tim yn erbyn Rwmania 43?8. Y gem nesaf, yn erbyn yr Alban, penderfynodd pa dim wnaeth cyrraedd y rownd gogynderfynol. Enillodd yr Ariannin y gem 13?12 ar ol cais hwyr gan Lucas Gonzalez Amorosino, Felipe Contepomi wnaeth trosi. Daeth yr Ariannin yn ail yn y gr?p drwy ennill 25?9 yn erbyn Georgia. Chwaraeodd yr Ariannin y
Crysau Duon
yn y rownd gogynderfynol; sgoriodd Julio Farias Cabello gais ar ol hanner awr i arwain 7?6, ond goruchafodd y Crysau Duon y gem, yn arwain i fuddugoliaeth 33?10 i Seland Newydd.
Ers 2012 mae'r Ariannin yn chwarae yn y Pencampwriaeth Rygbi, cystadleuaeth gydag
Awstralia
, De Affrica a Seland Newydd. Yn 2012 fe wnaeth y
Pumas
gystadlu yn y Pencampwriaeth heb ennill gem, ond gorffennodd eu gem yn erbyn De Affrica ym Mendoza yn gyfartal.