Addoldy a ddefnyddir gan gynulleidfa
Iddewig
yw
synagog
. Yn aml mae'n gwasanaethu fel canolfan gymuedol i'r gymuned Iddewig leol hefyd. Y prif ddarn o ddodrefn yn yr adeilad yw math o gwpwrdd pren sy'n cynrychioli
Arch y Cyfamod
, lle cedwir sgroliau sanctaidd y
Torah
, llyfr sanctaidd
Iddewiaeth
. Er mwyn cynnal gwasanaeth yn y synagog mae'n rhaid cael deg Iddew gwrywaidd mewn oed yno, sef
minyan
. Caiff y gair ei ddefnyddio yn ffigurol am addoldai eraill hefyd weithiau. Mae'n well gan rai Iddewon ddefnyddio'r gair
Teml
yn lle synagog.
Credir fod y synagog yn tarddu o gyfnod alltudiaeth yr
Iddewon
ym
Mabilon
yn lle
Teml Caersalem
. Yng nghyfnod yr
Henfyd
yr oedd yn fan cyfarfod cyhoeddus i Iddewon lle darllenid y
Torah
a thrafod ei gynnwys.