Sylvie Testud
|
---|
|
Ganwyd
| 17 Ionawr 1971
Lyon
, 4th arrondissement of Lyon
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Ffrainc
|
---|
Alma mater
| - Conservatoire national superieur d'art dramatique
- Cours Florent
|
---|
Galwedigaeth
| actor
,
ysgrifennwr
, nofelydd,
cyfarwyddwr ffilm
,
sgriptiwr
, llefarydd llyfrau, actor ffilm
|
---|
Gwobr/au
| Chevalier de la Legion d'Honneur, Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Officier des Arts et des Lettres?, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actores Gorau, Q3319544
|
---|
Actor
o
Ffrainc
yw
Sylvie Testud
(ganwyd
17 Ionawr
1971
) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel
nofelydd
,
cyfarwyddwr ffilm
, sgriptiwr a llefarydd llyfrau. Cychwynodd ei gyrfa ym myd ffilmiau yn 1991.
Fe'i ganed yn
Lyon
ac wedi gadael yr ysgol mynychodd y
Conservatoire national superieur d'art dramatique
a'r
Cours Florent
.
[1]
[2]
Enillodd Wobr Cesar am yr Actores Fwyaf Addawol am
Murderous Maids
(2000), Gwobr Cesar am yr Actores Orau am
Fear and Trembling
(2003), a Gwobr Ffilm Ewropeaidd am yr Actores Orau yn y ffilm
Lourdes
(2009). Mae ei rolau ffilm eraill yn cynnwys
Beyond Silence
(1996), 'La Vie en Rose
(2007), a
French Women
(2014).
Fe’i magwyd yn chwarter
La Croix-Rousse
yn
Lyon
,
Ffrainc
. Roedd hwn yn ardal gyda llawer o fewnfudwyr
Portiwgaleg
,
Sbaenig
ac
Eidalaidd
. Mewnfudodd ei mam o'r Eidal yn y
1960au
. Gadawodd ei thad y teulu pan oedd Sylvie yn ddim ond dwy oed.
[3]
[4]
[5]
[6]
Yn 1985, pan oedd hi'n 14 oed, gwelodd Charlotte Gainsbourg yn actio merch ifanc gymhleth yn
L'Effrontee
, ffilm a gyfarwyddwyd gan Claude Miller, ac uniaethodd a Gainsbourg, ac felly cymerodd ddosbarthiadau drama yn Lyon gyda'r actor a'r cyfarwyddwr Christian Taponard.
Yn 1989, symudodd i Baris a threuliodd dair blynedd yn y Conservatoire (CNSAD). Yn gynnar yn y
1990au
, glaniodd ei rolau cyntaf mewn ffilmiau fel
L'Histoire du garcon qui voulait qu'on l'embrasse
, a gyfarwyddwyd gan Philippe Harel, a
Love, etc
, a gyfarwyddwyd gan Marion Vernoux. Yn 1997 cafodd lwyddiant mawr yn yr
Almaen
gyda'r ffilm
Jenseits der Stille
gan Caroline Link y dysgodd Almaeneg, iaith arwyddion, a'r clarinet ar ei chyfer. Yn 1998 cafodd ei rol fawr gyntaf yn sinema Ffrainc yn chwarae Bea yn
Karnaval
gan Thomas Vincent, ac yn 2000 serennodd yn
La Captive Chantal Akerman
, addasiad o
La Prisoniere, pumed ran A la recherche du temps perdu
gan
Marcel Proust
.
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Chevalier de la Legion d'Honneur (2012), Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol (2008), Officier des Arts et des Lettres? (2016), Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actores Gorau (2010), Q3319544 (2023)
[7]
[8]
[9]
.