한국   대만   중국   일본 
Super Cup UEFA - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Super Cup UEFA

Oddi ar Wicipedia

Gem bel-droed flynyddol wedi ei drefnu gan UEFA rhwng deiliaid dau brif gystadleuaeth clybiau Ewrop, Cynghrair y Pencampwyr UEFA a Chynghrair Europa UEFA ydy Super Cup UEFA . Cynhelir y gem ym mis Awst ar ddechrau'r tymor ddomestig.

Rhwng 1972 a 1999, roedd Super Cup UEFA yn cael ei gynnal rhwng pencampwyr Cwpan Ewrop/Cynghrair Pencampwyr UEFA a phencampwyr Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA . Wedi i UEFA ddod a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop i ben, pencapwyr Cwpan UEFA, gafodd ei ailenwi yn Gynghrair Europa UEFA yn 2009, sydd wedi herio pencampwyr Cynghrair y Pencampwyr.