한국   대만   중국   일본 
Sully Prudhomme - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Sully Prudhomme

Oddi ar Wicipedia
Sully Prudhomme
Ffugenw Sully Prudhomme  Edit this on Wikidata
Ganwyd Rene Francois Armand Prudhomme  Edit this on Wikidata
16 Mawrth 1839  Edit this on Wikidata
10fed arrondissement Paris  Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Medi 1907  Edit this on Wikidata
Chatenay-Malabry  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycee Condorcet  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth bardd , ysgrifennwr , awdur ysgrifau, dyddiadurwr, athronydd  Edit this on Wikidata
Swydd seat 24 of the Academie francaise  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Lenyddol Nobel , Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Vitet Prize, Commandeur de la Legion d'honneur?, Officier de la Legion d'honneur, Chevalier de la Legion d'Honneur  Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd Ffrengig yn yr iaith Ffrangeg oedd Sully Prudhomme (Rene-Francois-Armand Prudhomme; 16 Mawrth 1839 ? 7 Medi 1907 ) sy'n nodedig fel un o'r Parnasiaid . Derbyniodd y Wobr Lenyddol Nobel gyntaf ac hynny yn 1901 "i gydnabod ei gyfansoddiadau mydryddol, sy'n amlygu delfrydiaeth aruchel, perffeithrwydd crefftus a chyfuniad eithriadol o briodweddau'r galon a'r meddwl". [1]

Ganwyd ym Mharis ac astudiodd wyddoniaeth yn yr ysgol. Bu'n rhaid iddo rhoi'r gorau i yrfa wyddonol oherwydd afiechyd ei lygaid. Gweithiodd yn glerc mewn swyddfa ffatri cyn iddo gychwyn ar addysg yn y gyfraith yn 1860. Mae ei gasgliadau cynnar ? Stances et poemes (1865), Les Epreuves (1866), a Les Solitudes (1869) ? yn cynnwys cerddi rhwydd, gordeimladwy sy'n mynegi ei bruddglwyf wedi carwriaeth drist.

Yn y 1870au trodd Prudhomme ei gefn ar delynegiaeth sentimental a mabwysiadodd dulliau'r Parnasiaid, gyda phwyslais ar ffurf safonol, ceinder iaith, a chysyniadau athronyddol yn ei farddoniaeth, er enghraifft yn ei gyfrol La Justice (1878). Cesglir rhai o'i farddoniaeth Barnasaidd nodweddiadol yn Le Bonheur (1888), gwaith sy'n ymwneud a'r chwilfa Ffawstaidd am serch a gwybodaeth. Fe'i etholwyd yn aelod o'r Academie francaise yn 1881.

Gallai ei farddoniaeth ddiweddarach fod yn dywyll ac yn naif yn ei hymdriniaeth a themau athroniaeth ar fydr. Dioddefodd Prudhomme o afiechyd ar ddiwedd ei oes, a bu'n byw ar ben ei hun yn Chatenay-Malabry, Paris. Bu farw yno yn 68 oed. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Saesneg) " The Nobel Prize in Literature 1901 ", Sefydliad Nobel . Adalwyd ar 8 Medi 2019.
  2. (Saesneg)   Sully Prudhomme . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 8 Medi 2019.