Dydd Sul y Pasg
yw'r diwrnod yr atgyfododd
Iesu Grist
, yn ol
Cristnogion
.
Croeshoeliwyd
ef ar
Ddydd Gwener y Groglith
a'r dydd Sul dilynol, ymwelodd ei fam a
Mair Fadlen
y bedd, gan ei ddarganfod yn wag, yn ol Ioan. Dywed y disgybl
Mathew
fod
angel
yn bresennol yn yr ogof. Mae'r diwrnod hwn yn rhan o wythnos y
Pasg
. Y Dydd Sul blaenorol yw
Sul y Blodau
.
Dyma diwrnod cyntaf y cyfnod a elwir yn
Eastertide
neu
Paschaltide
(Tymor y Pasg), g?yl sy'n parhau tan y
Sulgwyn
, cyfnod o 7 wythnos. Yr wythnos gyntaf wedi Dydd Sul y Pasg yw 'Wythnos y Pasg' (yng Nghristnogaeth y Gorllewin) ac 'Wythnos Pascha' (yr un gair a 'Pasg') yng Nghristnogaeth y Dwyrain. Dethlir yr Atgyfodiad o'r Sul hwn am weddill yr wythnos. Ceir nifer o draddodiadau sy'n parhau hyd heddiw yn ystod yr wythnos hon, gan gynnwys Cyfarchiad y Pasg ("Cododd Crist!") ac addurno wyau Pasg.
Yn yr
20g
gwnaeth nifer o unigolion a sefydliadau eglwysig nifer o geisiadau i sefydlogi'r Pasg i'r un diwrnod pob blwyddyn, a'r cais cryfaf oedd y dylai'r Pasg ddisgyn ar y Dydd Sul wedi'r ail Sul yn Ebrill. Hyd yma (2016) nid yw'r argymhelliad hwn wedi ei wireddu.
[1]
- ↑
"Easter (holiday)"
.
Encyclopædia Britannica Online
. Encyclopædia Britannica
. Cyrchwyd
9 Mawrth
2013
.