Y diwrnod y cofir ym
Mhrydain
am y rhai a fu farw yn y
Rhyfel Byd Cyntaf
a'r
Ail Ryfel Byd
yw
Sul y Cofio
. Mae ei union ddyddiad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. I ddechrau, ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn cael ei ddathlu fel
Diwrnod y Cadoediad
(
11 Tachwedd
), ond ym
1945
newidiwyd yr enw i Sul y Cofio. Ers
1956
mae'n cael ei nodi ar y
dydd Sul
cyntaf ar ol Diwrnod y Cadoediad (fel arfer ail ddydd Sul mis Tachwedd).
Mae dau funud o ddistawrwydd am 11 o'r gloch y bore o flaen y Senotaff yn
Llundain
yn cofio llofnodi'r
cadoediad
a ddaeth a'r Rhyfel Byd Cyntaf i ben ar 11 Tachwedd
1918
. Bydd pobl yn gwisgo bathodyn y
pabi coch
a rhoddir torchau o'r pabi coch o flaen y Senotaff ac ar gofebion rhyfel ledled gwledydd Prydain.