한국   대만   중국   일본 
Strwdel - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Strwdel

Oddi ar Wicipedia
Strwdel afalau.

Crwst o ddalennau teneuon o does o amgylch llenwad meddal yw strwdel [1] ( Almaeneg : Strudel , sef trobwll ) sydd yn tarddu o goginiaeth Canolbarth Ewrop . Gwneir fel rheol ar ffurf rhol hir, yn aml wedi ei phlygu mewn siap pedol neu dorch, ac wedi pobi cai'r strwdel ei dorri'n sleisiau er mwyn ei fwyta, naill ai yn boeth neu'n oer. [2]

Cymysgir blawd , wyau , ychydig o fenyn , a chymhareb uwch na'r arfer o dd?r i wneud toes sidanaidd a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Dodir y toes ar liain, gydag ychydig o flawd, ar fwrdd mawr er mwyn ei dynnu gyda'r dwylo, ac yn draddodiadol dywedir bod yn rhaid ei ymestyn cymaint fel bod modd darllen papur newydd trwyddi. Er mwyn troi'r toes yn rhol hir, caiff ei frwsio gyda menyn toddi a thaenir briwsion bara arno cyn gosod y llenwad ar hyd ben y ddalen. Codir y lliain fel bo'r toes yn rholio i fyny ar ochr arall y bwrdd. Cai'r rholyn ei droi'n siap droelleg, fel arfer, a rhoddir rhagor o fenyn toddi arno cyn ei roi yn y ffwrn i'w bobi. [2]

Esiampl nodweddiadol yw'r Apfelstrudel , sydd yn boblogaidd yn Awstria a'r Almaen , sydd yn cynnwys afalau ac weithiau rhesins . Mae llenwadau eraill yn cynnwys cnau Ffrengig mal, hadau'r pabi gwyn wedi eu berwi, ceirios a sinamon , a chaws ceulaidd gyda sbeisys a melysyddion. Mae strwdel yn debyg i felysfwydydd eraill a wneir o grwst tenau megis ffilo sydd yn boblogaidd yn y Balcanau a'r Dwyrain Agos , er enghraifft baclafa .

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Geiriadur yr Academi , "strudel".
  2. 2.0 2.1 Alan Davidson, The Oxford Companion to Food (Rhydychen: Oxford University Press, 2006), t. 783.