Cyn-chwaraewr
rygbi
Cymreig yw
Stephen Michael Jones
(ganed
8 Rhagfyr
1977
). Chwaraeodd fel maswr i dim rhanbarthol
Scarlets Llanelli
a
Chymru
.
Ganed ef yn
Aberystwyth
. Ymunodd a
Chlwb Rygbi Llanelli
yn
1996
, gan symud i
Scarlets Llanelli
pan ffurfiwyd y timau rhanbarthol. Symudodd i
Clermont Auvergne
yn 2004, gan ddychwelyd at y Scarlets yn 2006.
Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn
De Affrica
yn
1998
. Mae wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru na neb heblaw
Neil Jenkins
.
Roedd yn rhan allweddol o dim Cymru pan enillwyd
y Gamp Lawn
yn
2005
, yn cynnwys sgorio 14 pwynt yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym
Mharis
ac 19 pwynt yn erbyn Iwerddon. Dewiswyd ef ar gyfer taith
y Llewod
i
Seland Newydd
yn 2005, ond
Jonny Wilkinson
gafodd ei ddewis ar gyfer y gemau prawf, penderfyniad a feirniadwyd gan lawer.
Yn hydref 2006 cyhoeddodd yr hyfforddwr
Gareth Jenkins
mai ef fyddai'n gapten Cymru yn y gemau'n arwain at Gwpan Rygbi'r Byd yn 2007. Erbyn hyn roedd yn wynebu cystadleuaeth gan
James Hook
am safle maswr yn y tim, ac er iddo chwarae rhan ymhob un o'r gemau pan enillwyd y Gamp Lawn eto yn 2008, dim ond yn erbyn Iwerddon y dechreuodd y gem. Ar ol cyfnod o hyfforddi gyda London Wasps mae'n dychwelyd yn nhymor 2015 i fod yn hyfforddwr y cefnwyr gyda'r Scarlets.