Roedd
Sir Forgannwg
(
Saesneg
:
Glamorgan
) yn un o 13 o
siroedd Cymru cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974
. Cyfatebai'n fras i diriogaeth
Teyrnas Morgannwg
.
Roedd yn ffinio ar
Sir Frycheiniog
yn y gogledd, ar
Sir Fynwy
yn y dwyrain, ar
Sir Gaerfyrddin
yn y gorllewin, a
Mor Hafren
ydyw'r terfyn deheuol. Roedd ei harwynebedd yn 2100 km², a'i phoblogaeth uchaf tua 1,220,000.
Craig y Llyn
ydyw'r pwynt uchaf (600m) yn yr ardal.