Cwpan o siocled poeth a hufen chwipio
Arwydd gyda siocled poeth, Caffe Starbucks, Aberystwyth 2021
jar
powdr coco
gyda choco brand Mazetti
Mae diod
siocled poeth
, hefyd
diod coco
neu goco, yn ddiod gyda blas o
siocled
sydd fel arfer yn cael ei wneud o
bowdr coco
a
siwgr
wedi'i gymysgu a d?r neu laeth neu dd?r a llaeth. Gellir gweini siocled poeth gyda
hufen chwipio
, llwyaid o
hufen ia
neu
malws melys
. Er mai fel diod poeth yr yfir siocled fel rheol, gellid ei weini fel diod oed hefyd.
Mae'r term "coco" o darddiad Astec ac yn deillio o air
Nahuatl
,
cacahuetl
neu
cacauatl
. Enw un o'r diodydd coco a ddefnyddir yn gyffredin gan y
Maya
oedd
xocoatel
neu
chocolatl
a rhoddodd ei gair i'r siocled yn Gymraeg, gan mai arferiad y Gymraeg yw troi'r sain 'ch' yn 'sh'. Mae'r termau "coco", "diod siocled" a "siocled poeth" yn wahanol o ranbarth i ranbarth ac weithiau fe'u defnyddir mewn modd camarweiniol heddiw. Yn wreiddiol, roedd "diod siocled" a "siocled poeth" yn ddiod yn seiliedig ar siocled, a choco (neu ddiod coco) yn ddiod yn seiliedig ar
bowdr coco
. Wrth gyflwyno diodydd parod ar gyfer bwytai ac aelwydydd preifat, fodd bynnag, mae'r termau hyn wedi dod yn aneglur. Mae diodydd ar gael sy'n cael eu gwneud ar sail powdr coco, ond heb siocled bellach yn cael eu cynnwys o dan y term siocled poeth neu ddiod siocled.
[1]
Ceir cyfeiriad ar
jacolet
yn y Gymraeg gan
William Williams Pantycelyn
yn ei lyfr
Pantheologia, neu, Holl Grefyddau'r Byd
c1762-1779, ond efallai bod hyn yn dreiglad gan mai'r cyd-destun yw'r linell, "... caccao, neu cneuen jacolet".
[2]
Mae'r cyfeiriad cynharaf cofnodedig i'r gair
siocled
(ac nid "chocolate") yn y Gymraeg o 1906.
[3]
Yn ol yr hanes darganfu’r Sbaenwyr ddiodydd coco yn ystod cyfarfod a
Moctezuma II
, Ymerawdwr yr
Asteciaid
ym 1519. Cafodd y ddiod ei gweini am y tro cyntaf yn Ewrop yn 1544 ar ol i bobl brodorol
Maya
gael eu cludo i Ewrop ac yna eu paratoi ar gyfer Tywysog
Philip II, Brenin Sbaen
.
[4]
Blasodd y naturiaethwr Prydeinig
Hans Sloane
ddiod coco yn ystod alldaith i
Jamaica
ym 1687. Gwnaeth y ddiod iddo
gyfogi
ac er mwyn ei liniaru ychwanegodd laeth. Yna aeth y rysait well hon ag ef yn ol i'r
DU
.
[5]
[6]
.
Chwaraeodd diodydd siocled ran bwysig mewn bywyd cymdeithasol yn y 18g gan ddod yn arwydd o soffisteigeidrwydd.
[7]
Hyd at y 19g, pan ddaeth
powdr coco
i fodolaeth, nid oedd unrhyw un wedi datblygu dull o wahanu'r menyn coco o'r mas
siocled
ac felly roedd y ddiod siocled yn dew a gallai arnofio o amgylch lympiau
braster
ynddo.
Mae powdrau diod siocled a diodydd siocled parod i'w prynu. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys y cyflasyn fanilin ac weithiau ychwanegion eraill, yn aml sefydlogwyr neu'r
emwlsydd
lecithin
(E322).
Mae gan goco gynnwys braster uchel ac yn aml mae'n cwympo mewn hylifau. Wrth baratoi eich diod siocled eich hun, dylech felly droi'r coco i'r siwgr a jioch o'r hylif cyn ei lenwi a gweddill y llaeth neu'r d?r wrth ei droi. Mae powdr diod siocled yn aml yn cynnwys coco wedi'i leihau a braster ac weithiau ychwanegion sy'n atal y coco rhag cwympo. Yna ychwanegir y powdr yn uniongyrchol at yr hylif a'i droi.
Mae yna ryseitiau ar gyfer siocled poeth sy'n seiliedig ar llaeth a siocled wedi'i doddi. Mae rhai yn cynnwys sesnin hefyd, megis mintys pupur, pupur chili,
fanila
neu
oren
; gellid ychwanegu
rym
hefyd
[8]
.
Geir hefyd ddiod
coffi
o'r enw
Caffe mocha
sy'n gyfuniad o coffi
espresso
a siocled - unai
powdr coco
neu
surop
siocled.
Ceir masnach mewn
mygiau
ar gyfer diodydd poeth, gan gynnwys siocled poeth, a rhai wedi eu haddurno gyda delweddau a'r geiriau Cymraeg "siocled poeth". Mae'r cwmni 'Pleser Pur' hefyd yn cynhyrchu siocled mewn gwahanol flasau i bobl greu siocled poeth ei hunain gartref.
Ceir hefyd llyfr Cymraeg,
Siocled Poeth a Marshmalos
sy'n gasgliad o gerddi i blant gan
Caryl Parry Jones
.