Talaith yng ngogledd-ddwyrain
India
, rhwng
Nepal
a
Bhwtan
, sy'n rhannu ffin a
Tibet
yn y gogledd a Rhanbarth
Darjeeling
yn y de, yw
Sikkim
neu
Sicim
.
[1]
Arwynebedd tir 7214 km². Ystyr yr enw Sikkim yw "Y T? Newydd"; yr enw
Tibeteg
arni yw
Denjong
, sef "Cwm Reis".
Gangtok
(poblogaeth 82,00) yw'r brifddinas.
Allan o'r boblogaeth o tua 500,000 mae 70% yn
Nepalwyr
, tua 15% yn
Lepchiaid
a 10% yn
Bhutiaid
.
Nepaleg
yw prif iaith y dalaith; mae
Saesneg
yn cael ei defnyddio fel
iaith swyddogol
ar gyfer gweinyddiaeth ac fe siaredir hefyd
Tibeteg
, yr iaith
Bhutia
a
Lepcha
, yn ogystal a
Bengaleg
a
Hindi
.
Hind?aeth
(60%) a
Bwdhiaeth
(28%) yw'r prif grefyddau. Mae gan y dalaith
senedd
un siambr gyda rheolaeth ar faterion mewnol a llywodraeth daleithiol a arweinir gan
brif weinidog
. Mae'r wlad yn cael ei rheoli ers degawdau gan y Sikkim National Democratic Front; mae'r ychydig
wrthbleidiau
'n fychan a dibwys. Mae economi y dalaith yn seiliedig ar
amaethyddiaeth
,
coedwigaeth
,
twristiaeth
a
diwydiant
ysgafn.
Mae Sikkim yn gorwedd rhwng
Nepal
yn y gorllewin,
Tibet
yn y gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Ardal
Darjeeling
(
Gorllewin Bengal
) yn y de a
Bhwtan
yn y de-ddwyrain. Yng ngogledd Sikkim mae mynyddoedd yr
Himalaya
gyda'u
eira
tragwyddol yn dominyddu'r tirwedd, yn cynnwys
Kangchendzonga
(neu Kangchenjunga; 8598m), y mynydd trydydd uchaf yn y byd. Mae'r ardal o gwmpas Kangchendzonga yn
barc cenedlaethol
sy'n cynnwys hefyd
Rhewlif
Zemu, un o'r fwyaf yn yr Himalaya. O'r ardal fynyddig hon rhed afonydd Lachen a Lachung, a fwydir gan eira'r copaon, i lawr i'r de i gwrdd ag
Afon Teesta
ac
Afon Rangeet
, prif afonydd Sikkim. Mae Afon Rangeet yn ffurfio'r ffin rhwng Sikkim a Rhanbarth Darjeeling. Mae dwy fraich anferth yn ymwthio o'r mynyddoedd mawr i'r de; mae'r fraich orllewinol yn ffurfio Cadwyn
Singalila
ac yn gwahanu Sikkim a Nepal; yn y dwyrain mae Cadwyn
Chola
yn ffurfio'r ffin rhwng y dalaith a Thibet gyda blwch y
Nathu La
yn ei chroesi. Yn bellach i'r de o'r gadwyn honno mae Cadwyn
Pango-la
yn nodi'r ffin rhwng Sikkim a Bhwtan. Rhwng y ddwy fraich hyn mae trydedd yn gwahanu cymoedd Afon Teesta ac Afon Rangeet, sy'n cwrdd ar flaen deheuol y gadwyn, ac yn trywanu ucheldiroedd Tibet dros y ffin yn y gogledd. Mae'r mynyddoedd yn droi'n fryniau gwyrdd coediog yng nghanolbarth y dalaith ac yn y de eithaf mae'r cymoedd yn isel gyda thyfiant a hinsawdd is-drofaol.
Ni wyddys llawer am hanes cynnar Sikkim. Mae’n bosibl fod y Lepchiaid wedi symud o fryniau
Assam
neu
Myanmar
(
Myanmar
) i fyw yn Sikkim rywbryd yn y
13g
gan raddol ddisodlu’r brodorion cynhanesyddol, y Naong, y Chang a’r Mon. Pobl heddychlon a arferai gasglu eu bwyd o’r fforestydd oedd y Lepchiaid ac nid oedd ganddynt y gallu i wrthsefyll y tonnau o fewnfudwyr o
Dibet
a ddaeth dros fylchau uchel gogledd Sikkim yn y
15g
i osgoi’r gwrthdaro gwleidyddol yn y wlad honno. Daeth y
Tibetwyr
, a elwid yn Bhotiaid gan eu cymdogion, a dysgeidiaeth y
Bwdha
i’r wlad. Roedd y mwyafrif ohonynt yn perthyn i enwad y
Nyingma-pa
("Yr Hetiau Cochion") a’i is-enwadau, ac wrth iddynt gymysgu a’r Lepchiaid datblygodd ffurf arbennig o
Fwdhiaeth
Dibetaidd yn Sikkim, yn gymysgfa o ddefodau ac ofergoelion hynafol y Nyingma-pa ac elfennau o
natur-addoliaeth
shamanaidd
y Lepchiaid. Ffrwyth gwleidyddol y croesffrwythloni hyn oedd y frawdoliaeth waed a wnaed rhwng
Thekong Tek
, arweinydd y Lepchiaid, a
Khye-Bumsa
, arweinydd y Bhotiaid, yn
Kabi Longtsok
. O ganlyniad i hynny sefydlwyd
brenhiniaeth
yn Sikkim a gynhwysai yn ei diriogaeth rannau o ddwyrain Nepal,
Dyffryn Chumbi
yn Tibet a bryniau
Darjeeling
a
Kalimpong
, yn ogystal a’r dalaith bresennol. Yn anffodus ni pharhaodd yr oes aur hwn dan reolaeth y chogyals (
rajas
neu
frenhinoedd
Sikkim) am hir. Yn ystod y
18g
collwyd tir i’r Bhwtaniaid yn y de ac i’r
Gorkhiaid
yn y dwyrain. Yna, yn y
19g
, daeth yr
Ymerodraeth Brydeinig
yn rhan o’r darlun pan yrrwyd y Gorkhiaid allan gan y
British East India Company
a throwyd Sikkim yn glustog-wlad rhwng Nepal, Tibet (a hawliai ei bod yn ddeiliad iddi), Bhwtan a thiriogaeth y Cwmni yng ngogledd
Bengal
. Dirywiodd rheolaeth y chogyal dros ei wlad a bu’n rhaid iddo ildio Darjeeling a’r cylch i’r Prydeinwyr. Roedd y Tibetiaid yn amheus iawn o amcanion y Prydeinwyr ac ar ol i
Brydain
gyhoeddi fod Sikkim yn dalaith warcheidiol yn
1861
bu gwrthdaro rhwng y ddwy blaid a arweiniodd i ymgais gan Dibet i oresgyn Sikkim. Gorchfygwyd y Tibetiaid a daeth Sikkim, a’r chogyal, dan reolaeth Swyddog Gwleidyddol Prydeinig yn Gangtok.
Nid oedd y chogyal olaf,
Palden Thondup Namgyal
, yn boblogaidd oherwydd iddo wrthsefyll y galwadau cynyddol am ddiwygiadau cyfansoddiadol. Roedd
Tsieina
, a hawliai Sikkim yn enw Tibet, yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa hefyd ac ofnai nifer o Sikkimiaid ddeffro ryw fore i weld milwyr Tsieineaidd ar ei strydoedd. Daeth yr argyfwng i’w ben ar ddechrau’r
1970au
pan ofynnodd y chogyal i India gymryd yr awenau yn Sikkim. Yn
refferendwm
1975
pleidliosiodd 97% o’r boblogaeth am undeb ag India ac ers hynny mae Sikkim wedi bod yn dalaith Indiaidd. Un o ganlyniadau polisiau’r Swyddogion Gwleidyddol Prydeinig oedd mewnfudiad sylweddol o Nepalwyr i Sikkim i ddatblygu
amaeth
ac i weithio yn y gerddi
te
, ac erbyn hyn mae dros 7O% o’r hanner miliwn o bobl sy’n byw yn Sikkim yn Nepaliaid a’r Nepaleg yw prif iaith y dalaith. Mae’r rhan fwyaf o’r Lepchiaid a’r Bhotiaid yn byw yn y gogledd ac yn ogystal ceir nifer cynyddol o fewnfudwyr o rannau eraill o India sy’n tueddu i redeg siopau a busnesau yn y trefi. Er bod tensiynau rhwng y cymunedau hyn erys Sikkim yn wlad werdd gymharol dawel ac mae’r safon byw yn uwch na’r cyfartaledd Indiaidd.
- K.C. Bhanja,
History of Darjeeling and the Sikkim Himalaya
(Delhi Newydd, 1993).
ISBN 81-212-0441-0
- P.N. Chopra,
Sikkim
(Delhi Newydd, 1979)
- H.H. Risley,
The Gazetteer of Sikkim
(1928; adargraffiad Delhi, 1999)
ISBN 81-86142-50-9