Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban
|
---|
|
Ganwyd
| 19 Tachwedd 1600 (yn y
Calendr Iwliaidd
)
Palas Dunfermline
,
Dunfermline
|
---|
Bu farw
| 30 Ionawr 1649 (yn y
Calendr Iwliaidd
)
Llundain
|
---|
Swydd
| teyrn Lloegr, teyrn yr Alban, Dug Iorc, teyrn Iwerddon
|
---|
Dydd g?yl
| 30 Ionawr
|
---|
Tad
| Iago VI yr Alban a I Lloegr
|
---|
Mam
| Ann o Ddenmarc
|
---|
Priod
| Henrietta Maria
|
---|
Plant
| Siarl II
, Mary Henrietta,
Iago II & VII
, y Dywysoges Elizabeth o Loegr, Y Dywysoges Anne o Loegr,
Henry Stuart, Dug Caerloyw
, Henrietta o Loegr, Charles James Stuart, Catherine Stuart
|
---|
Llinach
| y Stiwartiaid
|
---|
llofnod
|
---|
|
Charles Stuart, Brenin Siarl I
(
19 Tachwedd
1600
-
30 Ionawr
1649
) oedd Tywysog
Cymru
o
1616
hyd 1625, ac wedyn brenin
Lloegr
,
yr Alban
ac
Iwerddon
o
27 Mawrth
1625
tan ei ddienyddiad yn sgil
Rhyfel Cartref Lloegr
. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod o frwydro am rym rhwng y brenin a'r senedd. Yn bleidiwr brwd dros
hawl ddwyfol brenhinoedd
, gweithredai Siarl i gryfhau ei rymoedd ei hun, gan reoli heb y Senedd am gyfnod helaeth o'i deyrnasiad.
Yn ail fab i'r Brenin Iago VI o'r Alban a'i wraig
Anne o Ddenmarc
, cafodd Siarl ei eni ym
Mhalas Dunfermline
yn yr Alban ar 19 Tachwedd 1600. Ar farwolaeth Elizabeth I o Loegr yn mis Mawrth
1603
, dyrchafwyd ei dad i orsedd Lloegr. Roedd Siarl yn blentyn eiddil, ac, ar y dechrau, fe'i gadawyd yn yr Alban yng ngofal nyrsys rhag ofn i'w iechyd waethygu ar y daith hir i Lundain.
Esgynodd Siarl i orsedd Lloegr a'r Alban ar farwolaeth ei dad ar
27 Mawrth
1625
. Ar
13 Mehefin
o'r un flwyddyn, priododd
Henrietta Maria
, yn absenoldeb y ddau gymar. Roedd ei senedd gyntaf, oedd wedi agor ym mis Mai, yn erbyn y briodas o'r cyntaf am mai pabyddes oedd hi, ac ofnid y byddai Siarl yn lleddfu mesurau yn erbyn pabyddion a thanseilio Protestaniaeth fel crefyddol swyddogol y deyrnas.
Roedd Siarl yn brwydo a'r Senedd yn ystod rhan helaeth o'i deyrnasiad.
Achos llys a'i ddienyddio
[
golygu
|
golygu cod
]
Cyhuddiwyd Siarl o uchel frad ac uchel droseddau eraill ar
2 Ionawr
1649
. Gwrthododd Siarl bledio gan fynnu nad oedd gan lys mo'r hawl i ddwyn achos yn erbyn brenin. Fe'i cafwyd yn euog, a llofnodwyd warant marwolaeth gan 59 o'r comisiynwyr, gan gynnwys
John Jones, Maesygarnedd
ar
29 Ionawr
1649
. Fe'i dienyddiwyd y diwrnod wedyn ar lain o dir o flaen y
Banqueting House
yn Llundain.