Shaheen Jafargholi
|
---|
|
Ganwyd
| 23 Ionawr 1997
Abertawe
,
Cymru
|
---|
Label recordio
| Island Records
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Galwedigaeth
| actor
,
canwr
, actor teledu
|
---|
Arddull
| cerddoriaeth boblogaidd
|
---|
Mae
Shaheen tuma Jafargholi
(ganed
23 Ionawr
1997
) yn
actor
a
chanwr
Cymreig
-
Iranaidd
o
Abertawe
,
Cymru
. Daeth yn enwog ar ol iddo ganu ar y gyfres deledu
Britain's Got Talent
yn y
DU
.
Rhieni Shaheen yw Karen Thomas, sy'n Gymraes, ac Iraj Jafargholi, ymgynghorydd cyfrifiadurol Iranaidd. Mae ei rieni wedi gwahanu.
[1]
Roedd yn ddisgybl ym Ysgol Gymunedol Dylan Thomas
[2]
a mynychodd Ysgol Berfformio Mark Jermin ar ddyddiau Sadwrn. Gwelwyd Jafargholi ar raglen ddogfen
BBC Cymru
o'r enw
Starstruck
a oedd yn dilyn hynt a helynt plant yr ysgol berfformio am chwe mis.
Chwaraeodd Jafargholi ran y cymeriad Troy (cymydog Jason) yn y gyfres deledu i blant
Grandpa In My Pocket
.
[3]
. Mae ef hefyd wedi actio yn y rhaglen deledu
Torchwood
yn y rhifyn "Greeks Bearing Gifts", yn chwarae cymeriad Danny - plentyn y gwallgofddyn o dad
[4]
yn ogystal a chymryd rhan yn y gyfres deledu meddygol
Casualty
, lle chwaraeodd rhan Christy Skinner, claf a oedd yn ddioddef o'r rhug.
[5]
Aeth Jafargholi ar daith hefyd gyda "Thriller - Live" lle chwaraeodd rhan
Michael Jackson
ifanc.
[6]
Perfformiodd Jafargholi hefyd yng nghyngerdd deyrnged Michael Jackson yn
Los Angeles
ar y
7fed o Orffennaf
,
2009
.
[7]
Yn Ebrill 2016, cyhoeddwyd ei fod am ymuno a'r opera sebon
Eastenders
mewn rhan rheolaidd.
[8]
Yn dilyn stori am droseddau cyllyll, bu farw ei gymeriad yn Mai 2018 wedi cael ei drywanu gan gang. Ar 1 Awst 2018, cyhoeddwyd y byddai'n ymuno a chast
Casualty
fel y nyrs Marty Kirkby.
[9]