Rhag ofn nad ydych wedi gweld
sylw gan Ann Hopkin ar Trwydar
:
Byddwn yn awgrymu fod ei ddylanwad wedi dieithrio cynulleidfa gerddth gelf yn ystod yr 20G a’r her o adennill y gynulleidfa honno yn aruthrol. Awgrymaf mai nid yr anghytseinedd oedd yn anodd ond y diffyg ail-adrodd syniadau cerddorol. Wrth ail-wrando (yn ystod darn) down i ddeall.
Llywelyn2000
(
sgwrs
)
11:47, 20 Medi 2022 (UTC)
[
ateb
]
- Heb os, mae gwaith Schoenberg yn heriol. Iddo ef yr oedd cerddoriaeth yn fater difrifol, yn fater moesol. Nid adloniant yn unig ydoedd. Doedd pobl byth yn mynd i fwmian ei alawon o dan y gawod. Mae AH yn gwneud pwynt da: nid y sain yw’r peth anoddaf am ei waith, ond y ffordd y mae e’n cywasgu syniadau, ei barodrwydd i wthio’r holl elfennau cerddorol i'w eithafion ar yr un pryd. --
Craigysgafn
(
sgwrs
)
13:26, 20 Medi 2022 (UTC)
[
ateb
]