Sgwar yn
Ninas Westminster
, canol
Llundain
, yw
Sgwar Trafalgar
(
Saesneg
:
Trafalgar Square
), yn agos at ganol swyddogol y ddinas a'i nodir gan gerflun o
Siarl I
yn
Charing Cross
, i'r de o'r sgwar. Yn wreiddiol safai rhwng dinasoedd
Llundain
a
Westminster
, a lleolwyd y stablau brenhinol yno ers teyrnasiad
Edward I
. Yn 1820au adnewyddwyd yr ardal gan y pensaer
John Nash
ar gyfer
Tywysog Rhaglyw
. Enwir y sgwar ar ol buddugoliaeth y llynges Brydeinig ym
Mrwydr Trafalgar
ym 1805, ac fe saif
Colofn Nelson
, cofadail er coffa'r
Arglwydd Nelson
, yn y canol. Mae'r sgwar o hyd wedi bod yn boblogaidd a phrotestwyr, er gwaethaf ad-drefniad y safle yn yr 1840au gan y pensaer
Charles Barry
, a cheisiodd lleihau'r nifer o bobl all ymgynull yno. Cafodd y sgwar ei ail-gynllunio eto ym 1938 gan
Edwin Lutyens
ac yn 2003 gan
Norman Foster
.
Lleolir yr
Oriel Genedlaethol
ar ochr ogleddol y sgwar, llysgenhadaeth
De Affrica
i'r dwyrain, a llysgenhadaeth
Canada
i'r gorllewin. Bu'r sgwar ynghynt yn enwog am y nifer o
golomennod
a ddaeth yno i gael eu bwydo gan y twristiaid, ond gwaharddwyd hyn gan
Ken Livingstone
tra'r oedd yn
Faer Llundain
.