Brawdoliaeth
gyfrin a ddechreuwyd o bosib rhwng diwedd
16g
a dechrau'r
17g
yw brawdolaeth y
Seiri Rhyddion
(neu
Fasoniaeth
)
[1]
[2]
Mae tarddiad y mudiad yn niwlog a cheir fersiynau gwahanol o Fasoniaeth ledled y byd. Amcangyfrifir fod gan y mudiad tua chwe miliwn o aelodau, gyda thua 150,000 ohonynt yn
yr Alban
ac
Iwerddon
, a thros chwarter miliwn o dan reolaeth
Cyfrinfa Unedig Lloegr
[3]
ac ychydig o dan dau filiwn yn
yr Unol Daleithiau
.
[4]
Rhennir gweinyddiaeth y frawdoliaeth yn Brif Gyfrinfeydd, gyda phob un ohonynt yn gyfrifol am eu hardal eu hunain, sy'n cynnwys is-Gyfrinfeydd. Mae'r amryw Prif Gyfrinfeydd yn cydnabod ei gilydd ai peidio yn seiliedig ar dirnodau (mae Cyfrinfeydd Mawrion sy'n rhannu tirnodau cyffredin a'i gilydd yn ystyried ei gilydd yn Gyfrinfeydd Mawrion Cyson, a'r rhai nad ydynt yn gyson yn "anghyson" neu'n "ddirgel"). Mae canghennau hefyd yn bodoli sy'n rhan o brif ffrwd y Seiri Rhyddion, ond maent yn annibynnol o ran llywodraethu.
Defnyddia ysgrifenwyr rhyddiaeth y
trosiad
o offer a theclynnau seiri maen, gydag adeiladu
Teml y Brenin Solomon
yn gefnlen alegoriaidd iddo ers blynyddoedd. Y bwriad yw i gyfleu'r hyn y mae Seiri Rhyddion a beirniaid o'r system wedi disgrifio fel "system foesol dan orchudd alegori ac wedi'i darlunio gan symbolau".
[5]
[6]
Mae'r
opera
Die Zauberflote
(Y Ffliwt Hud) gan Mozart yn orlawn o'r math yma o symbolau.
Mae'r Seiri Rhyddion yn gwneud gwaith
elusennol
yn eu cymunedau ac yn hybu moesau a chyfeillgarwch gan aelodau'r frawdoliaeth. Mae natur gyfrinachol y Seiri Rhyddion wedi ennyn cryn wrthwynebiad trwy gydol eu hanes, yn ogystal a nifer o
ddamcaniaethau cydgynllwyniol
.
Gwrthwynebiad i Fasoniaeth
[
golygu
|
golygu cod
]
Ers 1738 mae'r
Eglwys Gatholig
yn gwahardd ei haelodau rhag ymaelodi a'r Seiri Rhyddion. Cyhoeddwyd nifer o
fylau pabyddol
sy'n ailadrodd cred yr Eglwys fod Masonieth yn groes i ddysgeidiaeth Gristnogol. Ni cheir Catholigion sy'n dod yn Seiri Rhyddion dderbyn y
cymun
.
Ysgrifennodd
William Morgan
o
Efrog Newydd
(1774?1826?) lyfr yn erbyn y Seiri Rhyddion, sef
The Mysteries of Free Masonry
.
[7]
Diflannodd o wyneb y Ddaear a chred rhai iddo gael ei herwgipio a'i ladd gan y frawdoliaeth.
[8]
Mae
Mwslimiaid
yn edrych ar Saer Rhydd fel cefnogwr i Israel. Dywed Erthygl 28 o Gyfamodau
Hamas
fod athroniaeth y Seiri Rhyddion yn "gweithio dros
Seioniaeth
ac oddi tanynt".
[9]
Oherwydd ymglymiad honedig y Seiri Rhyddion i Seioniaeth, danfonwyd llawer o Seiri Rhyddion i
wersylloedd crynhoi
gan y
Natsiaid
, lle bu rhaid iddynt wisgo
bathodyn coch
oedd yn dynodi eu statws fel "
carcharorion gwleidyddol
".
Rhai o adeiladau'r Seiri Rhyddion yng Nghymru
[
golygu
|
golygu cod
]