Cerddorwr roc, gwleidydd a maferic o Sais oedd
David Edward Sutch
neu
Screaming Lord Sutch
(Cymraeg: "
Yr Arglwydd Sgrechlyd Sutch
") (
10 Tachwedd
1940
?
16 Mehefin
1999
). Cafodd yrfa hir fel cerddor dan ei lysenw "Screaming Lord Sutch" a daeth yn adnabyddus i gynulleidfa ehangach fel sylfaenydd yr
Official Monster Raving Loony Party
a safai mewn nifer o
etholiadau
ac
is-etholiadau
yn y
1980au
a'r
1990au
, yn aml yn erbyn gwleidyddion amlwg.
Sefydlodd yr Official Monster Raving Loony Party yn
1983
ac ymladdodd yn is-etholiad
Bermondsey
. Yn ystod ei yrfa safodd mewn dros 40 etholiad. Roedd yn ffigwr hawdd i'w adnabod yn y cownt etholiadol oherwydd ei ddillad lliwgar. Yn fuan ar ol iddo ennill rhai cannoedd o bleidleisiau yn etholiad
Finchley
yn
1983
, gan achosi cryn embaras i
Margaret Thatcher
ar y noson, y codwyd y deposit a delir gan ymgeisgwyr etholiad o £150 i £500. Parhaodd Sutch i sefyll, fodd bynnag, gan ddefnyddio ei enillion o'i gyngherddau roc i dalu am ei ymgyrchoedd tafod-mewn-boch. Bu ar raglen gyntaf y gyfres deledu ddychanol
The New Statesman
ar
ITV
- fel ef ei hun - gan ddod yn ail yn ffug etholiad 1987 (o flaen ymgeiswyr
Llafur
a'r
SDP
) a welodd Alan B'Stard (cymeriad
Rick Mayall
) yn cael ei ethol i
San Steffan
.