Un o
gantonau'r Swistir
yw
Schwyz (SZ)
. Saif yng nghanolbarth
y Swistir
. Roedd Schwyz yn un o'r tri canton gwreiddiol, gydag
Uri
ac
Unterwalden
, a arwyddodd y cytundeb ffederal a sefydlodd y Conffederasiwn Swisaidd yn
1291
. Gan mai Schwyz oedd y pwysicaf o'r tri canton yma, daeth ei enw i olygu'r wlad hefyd (
Schweiz
yn
Almaeneg
).
Lleoliad Schwyz yn y Swistir
Roedd y boblogaeth yn
2007
yn 140,965.
Almaeneg
yw prif iaith y canton.