한국   대만   중국   일본 
Sbectrwm gwleidyddol - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Sbectrwm gwleidyddol

Oddi ar Wicipedia

Dull o ddosbarthu syniadau gwleidyddol yn ol cynllun gofodol yw sbectrwm gwleidyddol . Defnyddir i ddisgrifio a chymharu ideolegau a safbwyntiau gwleidyddion , pleidiau , a mudiadau. Y sbectrwm traddodiadol ydy'r llinell a rennir yn ochrau'r chwith a'r dde, gyda gwleidyddiaeth eithafol ar naill pen y llinell. Seilir y mwyafrif o sbectrymau gwleidyddol eraill ar y dosbarthiad deuol hwn.

Daw'r termau adain chwith ac adain dde o'r Chwyldro Ffrengig , pryd eisteddai'r radicalwyr ac ochr chwith yr ystafell yng nghynulliadau'r Ystadau Cyffredinol, a'r pendefigion ar yr ochr dde. Datblygodd y patrwm o wrthwynebiad rhwng y chwyldroadwyr a'r adweithwyr i ddiffinio gwleidyddiaeth Ewrop yn y 19g, a defnyddiwyd y sbectrwm i grybwyll nifer o gredoau a pholisiau eraill, wedi eu dosbarthu'n fras rhwng y chwith a'r dde. Fel rheol, gwahenir y sbectrwm yn nhermau syniadaeth wleidyddol o ran y berthynas rhwng y wladwriaeth a'r economi : disgrifir safbwyntiau o blaid ymyrraeth economaidd a chyfunoliaeth yn adain chwith, ac agweddau laissez-faire tuag at y farchnad ac unigolyddiaeth yn adain dde. Y tu hwnt i bynciau economaidd, mae diffinio'r gwahaniaethau rhwng y chwith a'r dde yn ddadleuol. Yn gyffredinol, dywed bod yr adain chwith yn gwleidydda ar sail cymunedoliaeth a blaengaredd megis rhyddid , cydraddoldeb , brawdoliaeth, hawliau , diwygio, a rhyngwladoldeb . Ar yr adain arall, mae bydolwg y dde yn adlewyrchu gwerthoedd traddodiadol megis awdurdod, hierarchaeth , trefn, rheol y gyfraith, dyletswydd , a chenedlaetholdeb . [1] Mae llawer o gafeatau i ddosraniad o'r fath, er enghraifft, byddai nifer o geidwadwyr yn coleddu rhyddid yr unigolyn, y teulu a'r genedl, tra byddai nifer o sosialwyr yn parchu rheol y gyfraith a'r drefn wleidyddol wrth ymgyrchu dros eu hamcanion.

Yn yr 20g, datblygwyd y sbectrwm gwleidyddol i grybwyll mudiadau ac ideolegau newydd. Ar ei ffurf symlaf, mae'r sbectrwm unllin yn cynnwys comiwnyddiaeth a ffasgaeth ar bennau eithaf y chwith a'r dde, a rhyddfrydiaeth yn mynychu tir y canol. Yn sgil twf gwladwriaethau totalitaraidd ar sail llywodraethau comiwnyddol a ffasgaidd, datblygwyd y sbectrwm pedol, a'i bennau'n troi'n ol tuag at ei gilydd, i ddarlunio tebygrwydd yr adain chwith eithafol a'r adain dde eithafol o ran eu tueddiadau awdurdodaidd .

Datblygwyd hefyd sbectrymau dau-ddimensiwn, sy'n cyfuno'r dosraniad traddodiadol ar sail polisi economaidd a rhaniadau gwleidyddol eraill, fel arfer rhwng rhyddid ac awdurdod neu rwng democratiaeth ac awtocratiaeth . Mae sbectrymau o'r fath yn galluogi disgrifio ideolegau anarchaidd , a ellir bod yn adain-chwith neu'n adain-dde.

Defnyddir y dosraniad chwith-dde i ddisgrifio gwleidyddiaeth ar draws y byd hyd yr 21g, ac yn fynych iawn mae unigolion a grwpiau yn uniaethu a mudiadau cyffredinol "y Chwith" a'r "Dde". Er hynny, mae rhai'n dadlau na ellir pennu safle ar y sbectrwm i fudiadau ac ideolegau newydd megis ffeministiaeth ac ecolegaeth , a bod gwleidyddiaeth syncretaidd a'r Drydedd Ffordd yn trosgynnu ? neu'n tanseilio ? y sbectrwm ac wedi gwneud hen ddeuoliaeth y chwith a'r dde yn ddiangen. [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 Andrew Heywood, Key Concepts in Politics (Basingstoke, Hampshire: Palgrave, 2000), tt. 27?28.