Savitri Devi
|
---|
|
Ffugenw
| Savitri Devi
|
---|
Ganwyd
| Maximine Julia Portaz
30 Medi 1905
2nd arrondissement of Lyon
|
---|
Bu farw
| 22 Hydref 1982
Sible Hedingham
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Gwlad Groeg
|
---|
Addysg
| doethuriaeth
|
---|
Alma mater
| - Prifysgol Lyon
- Prifysgol Lyon
- Prifysgol Lyon
|
---|
Galwedigaeth
| ysgrifennwr
,
bardd
, ymgyrchydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymladdwr rhyddid
|
---|
Priod
| Asit Krishna Mukherji
|
---|
Gwefan
| http://savitridevi.org/
|
---|
Awdur
Groeg-Ffrengig-Eidalaidd Maximiani oedd
Savitri Devi Mukherji
(enw bedydd:
Maximiani Portas
;
30 Medi
1905
-
22 Hydref
1982
).
Fe'i ganed yn
Lyon
ar
30 Medi
1905
; bu farw yn Sible Hedingham ac fe'i claddwyd yn Wisconsin o drawiad ar y galon. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Visva-Bharati a Phrifysgol Lyon (1896-1969).
[1]
[2]
[3]
[4]
[5]
[6]
Bu'n briod i Asit Krishna Mukherji.
Roedd yn lladmerydd dros
ecoleg
a
Natsiaeth
, a gwasanaethodd y gwledydd hynny a oedd yn ochri gyda'r
Almaen
yn yr
Ail Ryfel Byd
, drwy
ysbio
ar rymoedd y
Cynghreiriaid
yn
India
.
[7]
[8]
[9]
[10]
Ysgrifennodd am fudiadau
hawliau anifeiliaid
a pharhaodd yn aelod blaenllaw (ond cudd) o'r Natsiaid yn ystod y
1960au
.
[8]
[10]
[11]
Ysgrifennodd Devi faniffesto hawliau anifeiliaid
Uchelgyhuddiad Dyn
, neu
The Impeachment of Man
[10]
ym 1959 ac am y tir canol rhwng Hind?aeth a Natsiaeth
[12]
, gan syntheseiddio'r ddau, a chyhoeddi bod Adolf Hitler wedi'i anfon gan ragluniaeth, yn debyg iawn i avatar o'r Duw Hindwaidd Vishnu. Credodd bod Hitler yn aberth dros ddynoliaeth a fyddai'n arwain at ddiwedd y Kali Yuga a ysgogwyd gan y rhai yr oedd hi'n teimlo oedd pwerau drygioni: yr
Iddewon
.
[8]
[10]
Mae ei hysgrifau wedi dylanwadu ar
neo-Natsiaeth
ac
ocwltiaeth
y Natsiaid. Ymhlith syniadau Savitri Devi roedd dosbarthiadau "dynion uwchlaw amser", "dynion mewn amser", a "dynion yn erbyn amser".
[13]
Ganed Maximiani Julia Portas ym 1905 yn
Lyon
.
[10]
Roedd yn ferch i Maxim Portas, dinesydd Ffrengig o dras Roegaidd ac Eidalaidd a'i mam, a oedd yn fenyw o Loegr, Julia Portas (g. Nash). Ffurfiodd ei barn wleidyddol yn gynnar. O'i phlentyndod a thrwy gydol ei hoes, roedd hi'n eiriolwr angerddol dros hawliau anifeiliaid. Roedd ei chysylltiadau gwleidyddol cynharaf a chenedlaetholdeb Gwlad Groeg.
[9]
Astudiodd Portas
athroniaeth
a
chemeg
, gan ennill dwy radd meistr a Ph.D. mewn athroniaeth o Brifysgol Lyon. Teithiodd i Wlad Groeg gan astudio'r hen adfeilion. Yma, daeth yn gyfarwydd a darganfyddiad Heinrich Schliemann o
swasticas
yn
Anatolia
. Daeth i'r casgliad bod yr Hen Roegiaid o darddiad
Aryan
.
Ei dau lyfr cyntaf oedd ei thraethodau doethuriaeth:
Essai-critique sur Theophile Kairis
(Traethawd Beirniadol ar
Theophilos Kairis
) (Lyon: Maximine Portas, 1935) a
La simplicite mathematique
(Symlrwydd mathemategol) (Lyon: Maximine Portas, 1935). Rywbryd rhwng 1929 a 1934, hi oedd tiwtor Ffrangeg yr athronydd Cornelius Castoriadis (1922?1997), fel y datgelodd mewn cyfweliad radio gyda Katherine von Bulow (ar y rhaglen "Diwylliant Ffrainc" 20/4/1996).
[14]
- ↑
Cyffredinol:
http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727
.
ffeil awdurdod y BnF
. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑
Rhyw:
Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol
. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de),
Gemeinsame Normdatei
,
Wikidata
Q36578
,
https://gnd.network/
, adalwyd 27 Ebrill 2014
http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727
.
ffeil awdurdod y BnF
. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑
Dyddiad geni:
http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727
.
ffeil awdurdod y BnF
. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq
. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
- ↑
Dyddiad marw:
http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121214727
.
ffeil awdurdod y BnF
. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq
. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
- ↑
Man geni:
Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de),
Gemeinsame Normdatei
,
Wikidata
Q36578
,
https://gnd.network/
, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq
. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
- ↑
Enw genedigol:
https://deces.matchid.io/id/c1PNqYRH-Ndq
. dyddiad cyrchiad: 29 Mawrth 2021.
- ↑
Nicholas Goodrick-Clarke
(1998).
Hitler's Priestess
: Savitri Devi, the Hindu-Aryan Myth, and Neo-Nazism
. NY: New York University Press,
ISBN
0-8147-3110-4
- ↑
8.0
8.1
8.2
"Hitler's Priestess: Savitri Devi, the Hindu-Aryan Myth, and Neo-Nazism"
, Nicholas Goodrick-Clarke. NYU Press, 2000.
ISBN
0-8147-3111-2
,
ISBN
978-0-8147-3111-6
. tt. 6, 42?44, 104, 130?148, 179, 222
- ↑
9.0
9.1
Goodrick-Clarke, Nicholas
(2003).
Black Sun: Aryan Cults, Esoteric Nazism, and the Politics of Identity
.
New York University Press
. t. 88.
ISBN
0-8147-3155-4
.
OCLC
47665567
.
- ↑
10.0
10.1
10.2
10.3
10.4
"The new encyclopedia of the occult"
, John Michael Greer. Llewellyn Worldwide, 2003.
ISBN
1-56718-336-0
,
ISBN
978-1-56718-336-8
. tud. 130-131
- ↑
"Politics and the Occult: The Left, the Right, and the Radically Unseen"
, Gary Lachman. Quest Books, 2008.
ISBN
0-8356-0857-3
,
ISBN
978-0-8356-0857-2
. p. 257
- ↑
Nodyn:Cite article
- ↑
"Gods of the blood: the pagan revival and white separatism"
, Mattias Gardell. Duke University Press, 2003.
ISBN
0-8223-3071-7
,
ISBN
978-0-8223-3071-4
. t. 183
- ↑
"Savitri Devi: The Woman Against Time"
by R. G. Fowler.
Mourning the Ancient
. Accessed 30 Medi 2011.