Mae
Saving Private Ryan
yn ffilm o'r
Unol Daleithiau
o 1998. Sonia'r ffilm am yr ymosodiad ar
Normandi
yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
. Cyfarwyddwyd y ffilm gan
Steven Spielberg
ac ysgrifennwyd y sgript gan
Robert Rodat
. Mae'r ffilm yn enwog am ddwyster y 24
munud
agoriadol, sy'n darlunio'r ymosodiad ar draeth Omaha ar
6 Mehefin
1944
. Yna, mae'r ffilm yn dilyn
Tom Hanks
fel Capten John H. Miller a nifer o Farchfilwyr (
Tom Sizemore
,
Edward Burns
,
Barry Pepper
,
Vin Diesel
,
Giovanni Ribisi
, ac
Adam Goldberg
) wrth iddynt chwilio am awyrfilwr o Adran Awyrlu'r
UDA
.