Saunders Lewis
|
---|
|
Ganwyd
| John Saunders Lewis
15 Hydref 1893
Wallasey
|
---|
Bu farw
| 1 Medi 1985
Caerdydd
|
---|
Man preswyl
| Penarth
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| hanesydd
,
gwleidydd
,
ysgrifennwr
,
bardd
, beirniad llenyddol,
dramodydd
, academydd
|
---|
Cysylltir gyda
| D. J. Williams
,
Lewis Valentine
|
---|
Adnabyddus am
| Siwan
,
Blodeuwedd
,
Brad
,
Buchedd Garmon
,
Gymerwch Chi Sigaret?
|
---|
Arddull
| theatr
,
barddoniaeth
|
---|
Priod
| Margaret Gilcriest
|
---|
Plant
| Mair Saunders Lewis
|
---|
Perthnasau
| Siwan Jones
|
---|
Dramodydd
,
bardd
,
nofelydd
, ysgolhaig,
beirniad llenyddol
a gwleidydd oedd
John Saunders Lewis
(
15 Hydref
1893
?
1 Medi
1985
). Ar 5 Awst 1925 roedd yn un o brif sylfaenwyr
Plaid Cymru
. Ar 19 Ionawr 1937 dedfrydwyd ef i 9 mis o garchar am ei ran yn
llosgi ysgol fomio
yn Ll?n. Bu ei ddarlith radio enwog
Tynged yr Iaith
, a draddodwyd yn
1962
, yn sbardun i sefydlu
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
.
Ganwyd Saunders i deulu o Gymry oedd yn byw yn
Wallasey
, ger
Lerpwl
. Roedd yn ail o dri mab i'r
gweinidog
Methodist Calfinaidd
, y Parch. Lodwig Lewis (1859?1933), oedd yn hanu o Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ei fam Mary Margaret (nee Thomas, 1862?1900) yn Llundain ond roedd y teulu'n hanu o Sir Fon.
Mynychodd ysgol y bechgyn yn Liscard, sef rhan o dref
Wallasey
. Roedd Saunders yn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl
[1]
pan gychwynnodd
Y Rhyfel Byd Cyntaf
. Cofrestrodd fel gwirfoddolwr gyda Chatrawd y Brenin, Lerpwl ym Medi 1914 ac yn Ebrill 1915 ceisiodd am gomisiwn gyda
Chyffinwyr De Cymru
ac fe'i ddyrchafwyd i Is-Gapten yn Chwefror 1916. Gwasanaethodd yn Ffrainc lle fe'i anafwyd.
[2]
Ar ol gadael y fyddin, dychwelodd i'r brifysgol i orffen ei radd yn Saesneg.
[3]
Yn 1922, fe'i apwyntiwyd yn ddarlithiwr yn y Gymraeg yng
Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe
. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, cynhyrchodd rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol o feirniadaeth lenyddol:
A School of Welsh Augustans
(1924),
Williams Pantycelyn
(1927), a
Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg
(1932).
[4]
Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd ym
Mhrifysgol Caerdydd
ac yn
1957
ymddeolodd i'w gartref ym
Mhenarth
, ger
Caerdydd
ac ymroddodd i ysgrifennu ar gyflwr gwleidyddol ac ieithyddol Cymru. Yn
1962
cyhoeddodd
Tynged yr Iaith
, sef darlith Radio
BBC Cymru
; y canlyniad fu sefydlu
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
. Fe enwebwyd Saunders Lewis am
wobr lenyddol Nobel
yn
1971
.
Priododd Margaret Lewis (nee Gilcriest) (1891-1984) ar 31 Gorffennaf 1924 yn eglwys Gatholig Our Lady and St Michael yn Workington, Cumberland. Cafwyd iddynt un plentyn, Mair Gras Saunders (1926-2011).
[2]
Yn fab i weinidog
Methodistaidd
, ymunodd a 'r
Eglwys Babyddol
yn
1932
, yn bennaf oherwydd dylanwad ei wraig Margaret.
[1]
Yn
1936
llosgodd Saunders, ynghyd a
D. J. Williams
a
Lewis Valentine
, adeiladau yr ysgol fomio ym
Mhenyberth
ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng
Ngholeg Prifysgol Abertawe
.
Bu farw wedi salwch hir yn Ysbyty St Winifred, Caerdydd, ar 1 Medi 1985.
[5]
Ei ddramau mwyaf yw
Blodeuwedd
a
Siwan
, sy'n ymwneud a'r gwrthdaro rhwng cariad a chwant. Yn ei nofelau
Monica
a
Merch Gwern Hywel
, yn ogystal ag yn
Siwan
, mae cytundeb
priodasol
yn holl bwysig ac yn hanfodol er lles
cymdeithas
. Roedd yn gredwr cryf yn y traddodiad Ewropeaidd, a gwelodd fod dylanwad
Lloegr
yn rhwystr i
Gymru
ddeall y traddodiad hwnnw. Dau ddylanwad mawr arno oedd
Emrys ap Iwan
a
W.B. Yeats
.
Yn 2005 cafodd Saunders Lewis ei enwi fel y degfed Cymro pwysicaf erioed mewn
pol piniwn
a wnaed gan y BBC.
[6]
Ar Fedi 22, 2016 cafodd plac glas ei ddadorchuddio er cof amdano yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ol cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe yn 1922.
Cyfrol o'i farddoniaeth ydy "Siwan a Cherddi Eraill", er fod y gerdd Siwan hefyd yn cael ei chyfri fel drama fydryddol.
Casglwyd ei gerddi ynghyd yn y gyfrol
Cerddi Saunders Lewis
(gol. R. Geraint Gruffydd).
Casglwyd ei holl ddramau ynghyd yn y ddwy gyfrol,
Dramau Saunders Lewis
, dan olygyddiaeth Ioan Williams.
Astudiaethau a llyfrau eraill
[
golygu
|
golygu cod
]
- Dafydd Jenkins,
Tan yn Ll?n
(1937) ? hanes
Penyberth
- Alun R. Jones a Gwyn Thomas (gol.),
Presenting Saunders Lewis
(Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)
- Mair Saunders,
Bro a Bywyd: Saunders Lewis 1893-1985
(Cyhoeddiadau Barddas, 1987)
- Bruce Griffiths,
Writers of Wales: Saunders Lewis
(Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)
- Dafydd Ifans (gol.),
Annwyl Kate, Annwyl Saunders
(Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1992) ? llythyraeth Saunders a
Kate Roberts
- T. Robin Chapman,
Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis
(Gwasg Gomer, 2006)
- Emyr Hywel (gol.),
Annwyl D.J. - Llythyrau D.J., Saunders, a Kate
(Y Lolfa, 2007) ? gohebiaeth
D. J. Williams
, Saunders Lewis a
Kate Roberts
- Rhianedd Jewell
Her a Hawl Cyfieithu Dramau - Saunders Lewis a Samuel Beckett a Moliere
(Gwasg Prifysgol Cymru, 2017)
- [2]
Plac glas i gofio Saunders Lewis - cyfweliad gyda'r Athro Prys Morgan (Golwg360)
- [3]
"Camgymeriad" cysylltu Saunders ag Abertawe am resymau negyddol - cyfweliad gyda Robert Rhys (Golwg360)
- Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis,
Williams Pantycelyn
(1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016)
> ar wefan Gwales
Gellir gwrando ar ddarlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, yma: http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.