Yr ail fwyaf o'r ynysoedd yn
y Mor Canoldir
a
rhanbarth
yr Eidal
yw
Sardinia
(
Sardeg
:
Sardigna
[sar?dinja],
Eidaleg
:
Sardegna
[sar?de??a]). Mae ganddi statws rhanbarth ymreolaethol o fewn yr Eidal.
Cagliari
yw'r brifddinas.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,639,362.
[1]
Mae gan yr ynys arwynebedd o 24,090 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd
Ynys Mon
yn 714 km². Saif ger arfordir gorllewinol
yr Eidal
, i'r de o
Ynys Cors
.
Rhennir y rhanbarth yn bum
talaith
a enwir ar ol eu canolfannau gweinyddol, sef:
Tua
1500 CC
, galwyd yr ynys yn
Hyknusa
(
Lladin
: "Ichnusa") gan y
Mycenaeaid
, efallai yn golygu ynys (
nusa
) yr
Hyksos
, oedd newydd gael eu gyrru o'r
Aifft
. Cafodd ei henw presennol o enw'r
Shardana
, un arall o'r bobloedd a ymosododd ar yr Aifft, ond a orchfygwyd gan
Ramesses III
tua
1180 CC
).
Yn wleidyddol, mae'n rhan o'r Eidal gyda mesur o hunanlywodraeth. Cydnabyddir pobl Sardinia gan lywodraeth yr Eidal fel "popolo", sef pobl ar wahan. Mae'n un o ddau ranbarth o'r Eidal sydd a'r statws yma; y llall yw
Veneto
. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,655,677. Y brifddinas yw
Cagliari
. Mae '
Parth Glas
' yn ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle mae llawer o bobl yn byw bywydau hir. Cofnodir Sardinia ymhlith yr uchaf (yn enwedig talaith Nuoro ac Ogliastra). Gwelwyd yma ardal o hirhoedledd uchel iawn mewn pentrefi mynyddig lle y mae'r dynion yn cyrraedd eu 100 ar gyfradd uchel iawn.
[2]
Mae gan yr ynys draddodiad cerddorol cryf, a cheir yno iaith gynhenid,
Sardeg
.