Samoa America
|
|
Arwyddair
| Samoa, Let God Be First
|
---|
Math
| unincorporated territory of the United States, endid tiriogaethol gwleidyddol, ardal ynysol, tiriogaeth yr Unol Daleithiau
|
---|
Enwyd ar ol
| Ynysoedd Samoa
,
Unol Daleithiau America
|
---|
En-us-American Samoa.ogg
|
Prifddinas
| Pago Pago
|
---|
Poblogaeth
| 49,710
|
---|
Sefydlwyd
| - 1899
|
---|
Anthem
| The Star-Spangled Banner
, Amerika Samoa
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Lemanu Peleti Mauga
|
---|
Cylchfa amser
| UTC?11:00, Samoa Time Zone, Pacific/Pago_Pago
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Saesneg
,
Samoeg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| Samoa
, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi
|
---|
Sir
| Unol Daleithiau America
|
---|
Gwlad
|
Samoa America
|
---|
Arwynebedd
| 199 ±1 km²
|
---|
Uwch y mor
| 765 metr
|
---|
Gerllaw
| Y Cefnfor Tawel
|
---|
Cyfesurynnau
| 14.29583°S 170.7075°W
|
---|
US-AS
|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff gweithredol
| Government of American Samoa
|
---|
Corff deddfwriaethol
| American Samoa Fono
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Governor of American Samoa
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Lemanu Peleti Mauga
|
---|
|
Ariannol
|
---|
Cyfanswm CMC (
GDP
)
| $709 million
|
---|
Arian
| doler yr Unol Daleithiau
|
---|
|
|
Tiriogaeth yr
Unol Daleithiau
yn ne'r
Cefnfor Tawel
yw
Samoa America
neu
Samoa Americanaidd
(
Samoeg
:
Amerika S?moa
neu
S?moa Amelika
). Fe'i lleolir yn hanner dwyreiniol
Ynysoedd Samoa
ym
Mholynesia
. Mae'r ynysoedd gorllewinol yn ffurfio gwlad annibynnol
Samoa
(Gorllewin Samoa gynt).
Mae Samoa America'n cynnwys pum ynys folcanig (
Tutuila
,
Aunu'u
,
Ofu
,
Olosega
a
Ta'u
) a dau
atol
(
Atol Rose
ac
Ynys Swains
). Tutuila yw'r ynys fwyaf a lleoliad y brifddinas,
Pago Pago
.
Cafodd ynysfor Samoa ei rannu yn ddwy diriogaeth gan Gytundeb Berlin 1899. Cytunwyd i roi ynysoedd y gorllewin i'r
Almaen
, ynysoedd y dwyrain i'r
Unol Daleithiau
, a
Ffiji
i
Brydain
. Dan ddylanwad pennaeth
Llynges yr Unol Daleithiau
dros y Cefnfor Tawel, a'i ganolfan yn Pago Pago, gorfodwyd penaethiaid Samoa America i arwyddo dogfennau i ildio'u hynysoedd i'r Unol Daleithiau. Gwnaed Tutuila ac Aunu'u yn "diriogaethau anghorfforedig" Americanaidd ym 1900 a gr?p Manu'a (Ofu, Olosega, Ta'u, Atol Rose, Ynys Swain) ym 1904.
Llwyddodd y llynges i ennill rheolaeth dros y diwydiant
copra
, a chefnogai'r
Eglwys Gynulleidfaol
yn erbyn diddordebau'r penaduriaid lleol. Ceisiodd
Adran Fewnwladol yr Unol Daleithiau
i ymgorffori'r diriogaeth yn y 1950au, a chafodd hyn ei wrthsefyll gan y penadur Tuiasosopo.
[1]
Yn ystod
yr Ail Ryfel Byd
, cafodd Samoa America ei milwroli oherwydd ei lleoliad strategol yn y frwydr yn erbyn
Japan
yn
y Cefnfor Tawel
. Trigai mwy o filwyr Americanaidd ar yr ynysoedd na Samoaid brodorol. Hyd heddiw, mae Maes Awyr Pago Pago yn cynnal ehediadau ar gyfer awyrennau milwrol, ac hyfforddir milwyr Samoaidd yng Nghanolfan Wrth Gefn
Byddin yr Unol Daleithiau
.
[1]
Ar ddechrau'r 21g, ymdrechodd llywodraeth yr Unol Daleithiau i dynnu Samoa America oddi ar restr
y Cenhedloedd Unedig
o wledydd sydd heb eu
datrefedigaethu
.
- ↑
1.0
1.1
Dan Taulapapa McMullin, "American Samoa" yn Thomas Benjamin (gol.),
Encyclopedia of Western Colonialism since 1450
, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007) t. 44.