Ffurf hanesyddol ar yr iaith
Saesneg
yw
Saesneg Canol
a siaredid ar ol y goncwest
Normanaidd
yn yr 11g tan ddiwedd y 15g. Aeth Saesneg drwy sawl newid a datblygiad yn y cyfnod wedi'r
Hen Saesneg
. Nid yw ysgolheigion yn hollol gytun yngl?n a dyddiadau'r iaith, ond pennir y tri a hanner can mlynedd 1150?1500 fel y cyfnod pan siaredid Saesneg Canol yn ol
Geiriadur Saesneg Rhydychen
.
[1]
Yn fras, dilynodd y cam hwn yn natblygiad yr iaith Saesneg
yr Oesoedd Canol Uchel
a
Diweddar
. Fe'i siaredid ar draws
Lloegr
, yn ne-ddwyrain
yr Alban
, mewn ambell man ar
y ffin rhwng Cymru a Lloegr
, ac yn
y Pal
yn
Iwerddon
.
Gwelodd Saesneg Canol newidiadau sylweddol i'w gramadeg, ynganiad, ac
orgraff
. Roedd arferion ysgrifennu yn ystod y cyfnod hwn yn amrywio'n eang. Dangosir amrywiaeth helaeth mewn enghreifftiau ysgrifenedig Saesneg Canol yn ol ardal eu tarddiad. Daeth Hen Saesneg, iaith safonol mewn cymhariaeth, yn fratiog a'i rhannu'n sawl ffurf leol, ac awduron yn ei datblygu yn y fan a'r lle yn fynyachaf.
[1]
Erbyn diwedd y cyfnod (tua 1470), gyda chymorth
y wasg argraffu
a ddyfeisiwyd gan
Johannes Gutenberg
yn 1439, derbyniwyd ffurf safonol yn seiliedig ar dafodiaith Lludain o'r enw Safon y Siawnsri. Roedd hyn i raddau helaeth yn sylfaen ar gyfer sillafu Saesneg Modern, er bod ynganiad wedi newid yn sylweddol ers hynny. Olynwyd Saesneg Canol yn Lloegr gan gyfnod y Saesneg Modern Cynnar, a barodd hyd ganol yr 17g. Datblygodd yr iaith
Sgoteg
ar yr un pryd fel datblygiad o dafodiaith
Northymbria
, ffurf ar Saesneg oedd yn gyffredin yng ngogledd Lloegr ac yn ne-ddwyrain yr Alban.
Yn ystod cyfnod Saesneg Canol, symleiddiwyd nifer o nodweddion gramadeg yr Hen Saesneg, neu ddiflanasant yn gyfan gwbl. Cafodd
ffurfdroadau'r
enw, yr ansoddair, a'r ferf eu symleiddio o ganlyniad i ostyngiad (ac yn y pen draw diflaniad) y mwyafrif o wahaniaethau o ran y
cyflwr gramadegol
. Benthycwyd llawer o eiriau
Normaneg
, yn enwedig ym meysydd gwleidyddiaeth, y gyfraith, y celfyddydau, a chrefydd. Cedwai'r
geirdarddiad Germanaidd
gan y rhan fwyaf o eirfa'r Saesneg, a dylanwadau'r
Hen Norseg
yn amlygach. Cafwyd newidiadau sylweddol yn nhermau ynganiad, gan gynnwys
llafariaid
a
deuseiniaid
hirion, ac yng nghyfnod diweddar Saesneg Canol yr hyn a elwir Sifft Fawr y Llafariaid.
Dim ond ychydig o
lenyddiaeth Saesneg Canol
sy'n goroesi, o ganlyniad i oruchafiaeth y Normaniaid a statws
Hen Ffrangeg
, neu
Eingl-Normaneg
, fel iaith o fri. Yn ystod y 14g, daeth arddull llenyddol newydd i'r amlwg gyda gwaith
John Wycliffe
a
Geoffrey Chaucer
, yr hwn sy'n un o feirdd gwychaf
barddoniaeth Saesneg Lloegr
a'i gampwaith
The Canterbury Tales
yn brif waith y cyfnod ac yn un o'r gweithiau pwysicaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg.
[2]