STV
yw'r enw a ddefnyddir gan y ddwy drwydded
ITV
yng Ngogledd a Chanolbarth yr
Alban
a adnabyddwyd gynt fel Grampian Television (
STV North
) a Scottish Television (
STV Central
). Mabwysiadwyd y brand ar Ddydd Mawrth 30 Mai 2006 gan ddisodli enwau'r ddwy fasnachfraint, yn debyg i'r hyn a wnaeth
ITV1
. Lluniwyd y brand newydd gan Elmwood Design sydd a swyddfa yng
Nghaeredin
. STV Group plc sy'n berchen ar y ddwy fasnachfraint a hefyd yn berchen ar frandiau eraill megis STV Productions, Ginger Productions a Pearl & Dean.
Lleolwyd stiwdios STV ar Stryd Renfield yn ardal Cowcaddens,
Glasgow
, ers ei sefydliad ym 1974, ond bellach wedi symud i rannu stiwdios newydd yn Pacific Quay ym mis Gorffennaf 2006 gyda BBC Scotland ger Glasgow Science Centre. Lleolir stiwdio arall STV ar safle pwrpasog yn ardal Gorwellin Tullos yn
Aberdeen
. Mae gan STV ganolfannau darlledu eraill yng
Nghaeredin
, Dundee ac
Inverness
ar gyfer cynhyrchiad newyddion rhanbarthol.
- STV News at Six
(rhaglenni gwahanol ar gyfer Ngogledd a Chanolbarth yr Alban)
- STV News Review
Materion Cyfoes a Nodweddion
[
golygu
|
golygu cod
]
- The Five Thirty Show
- Northern Exposure
(ar-lein blog fideo yng Ngogledd yr Alban)
- Politics Now
- The Real MacKay
(ar-lein blog fideo yn Canolbarth yr Alban)
- Scotsport
- UEFA Champions League Live
- Conquer the Castle
- Club Cupid
- Postcode Challenge