Potel a gwydraid o rym o Jamaica
Gwirod
a wneir o gynnyrch
siwgr
yw
rym
,
r?m
,
[1]
rhym
,
rwm
, neu
rhwm
.
[2]
Tri cham sydd i'r broses o wneud rym:
eplesu
'r siwgr,
distyllu
'r gwaddodion eplesedig, ac aeddfedu. Gwneir y mwyafrif o rymiau o
driagl
, sy'n cynnwys cymaint a 5 y cant siwgr. Sgil-gynnyrch o'r broses gynhyrchu siwgr yw triagl, y gwaddod sydd ar ol wrth grisialu siwgr o sudd y
gansen
. Lle bo diffyg diwydiant siwgr, defnyddir sudd y gansen siwgr yn hytrach na thriagl. Distyllir y triagl neu'r sudd eplesedig i gynhyrchu rym, ac mae'r ddiod yn cadw mwy o flas ei ddeunydd crai na'r mwyafrif o wirodydd eraill.
[3]
Hylif di-liw yw'r ddiod ddistyll naturiol, ond fe'i droir yn wahanol arlliwiau o frown drwy ychwanegu
caramel
a'i gadw mewn
casgenni
pren.
[4]
Mae ganddi
gynnwys alcohol
o 35?60%.
[5]
Gwneir gwirod eilradd o'r enw
taffia
o driagl neu waddodion siwgr amhur, ond ni ystyrir y ddiod hon yn wir rym. Pennir blas y rym gan y math o
furum
a ddefnyddir i eplesu, y dull distyllu, amgylchiadau'r broses aeddfedu, a'r rysait gymysgu.
[3]
Cynhyrchir rym mewn nifer o wledydd
trofannol
, yn bennaf yn
y Caribi
, gan gynnwys
Ciwba
,
Jamaica
,
Barbados
,
Trinidad a Thobago
, a
Puerto Rico
, ond hefyd
Unol Daleithiau America
,
Brasil
,
Madagasgar
, ac
Indonesia
. Rhennir yn rymiau cryf neu dywyll, sy'n ddiod gadarn; a rhymiau ysgafn neu wyn, a chanddynt flas sych. Daw rymiau ysgafn o ynysoedd
Sbaeneg
y Caribi, megis Ciwba a Puerto Rico, ac wrth deithio i'r de mae'r rym yn dywyllach ei lliw ac yn fwy cadarn ei flas. Jamaica sydd yn meddu ar yr enw gorau am wneud rym tywyll. Modd arall o ddosbarthu rymiau yw'r tri prif gategori: Ciwba, Jamaica, ac India'r Dwyrain (hynny yw, Indonesia); a mathau sy'n tarddu o wledydd eraill, gan gynnwys
aguardiente
(
Sbaen
,
Portiwgal
, a
De America
),
cachaca
(Brasil), gwirod y gansen (
De Affrica
), a rym Demerara (
Gaiana
).
[5]
Yfir
rym ar ei ben ei hun
yn y gwledydd sy'n ei gynhyrchu. Fe'i ddefnyddir mewn
diodydd cymysg
mewn ardaloedd eraill: rhoddir rym ysgafn gan amlaf mewn
coctels
yr haf megis y
daiquiri
a'r
Cuba libre
, tra bo
diodydd hir
, er enghraifft y Rum Collins, yn cynnwys rym tywyll. Yn hanesyddol cafodd rym Americanaidd ei gymysgu gyda
thriagl strapddu
a'i alw'n
blackstrap
, neu ei gymysgu gyda
seidr
i wneud diod
stonewall
.
[3]
Gwneir diodydd poeth o rym tywyll, megis
grog
, sy'n boblogaidd mewn gwledydd oer megis Prydain.
[4]
Cynhwysir mewn
sawsiau
melys ac ambell
pwdin
, er enghraifft
teisen rym
, a hefyd ei ddefnyddio i flasu
tybaco
.
[3]
Daw o
India'r Gorllewin
, a cheir y cofnod cynharaf o'r ddiod ym 1650. Roedd rym yn un o brif nwyddau'r
fasnach drionglog
rhwng yr Hen Fyd a'r Byd Newydd: cafodd caethweision Affricanaidd eu cyfnewid am siwgr a thriagl yn India'r Gorllewin; troid y cynhyrchion siwgr yn rym yn
Lloegr Newydd
; a chafodd y rym ei cyfnewid a'r Affricanwyr am ragor o gaethweision. Derbynodd morwyr
y Llynges Frenhinol
ddogn o rym o'r 18g hyd 1970.
[3]
Rym yw hoff ddiod y ddelwedd ystrydebol o for-ladron y Caribi.
- Richard Foss,
Rum: A Global History
(Llundain: Reaktion, 2012).
- Matt Murphy,
Rum: A Distilled History of Colonial Australia
(Sydney: HarperCollins, 2021).
- Ian Williams,
Rum: A Social and Sociable History of the Real Spirit of 1776
(Efrog Newydd: Nation, 2005).