Chwaraewr
rygbi'r Undeb
o Gymro yw
Ryan Paul Jones
MBE
(ganed
13 Mawrth
1981
). Bu'n rhan o tri camp lawn gyda thim cenedlaethol dynion
Cymru
, yn
2005
, fel capten yn
2008
, ac yn
2012
. Mae'n chwarae fel
wythwr
.
Ganed ef yng
Nghasnewydd
yn fab i blismon. Bu'n chwarae
pel-droed
i dim ieuenctid
Bristol City
fel golgeidwad hyd nes oedd yn 14 oed. Dechreuodd chwarae rygbi yn 17 oed, er mwyn cael bod gyda'i gyfellion.
Bu'n chwarae i'r
Rhyfelwyr Celtaidd
, yna pan gafodd y tim yma ei ddirwyn i ben, aeth i chwarae i'r Gweilch. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd
2004
, yn erbyn De Affrica. Roedd yn rhan o dim Cymru pan enillwyd
y Gamp Lawn
yn
2005
.
Ni ddewiswyd ef yn y lle cyntaf ar gyfer taith
y Llewod
i
Seland Newydd
yn niwedd 2005, ond yn dilyn anafiadau, galwyd ef i ymuno a'r tim. Daeth ar y cae am gyfnod yn ystod y gem brawf gyntaf a chwaraeodd o'r dechrau yn y ddwy gem brawf arall; ystyriai llawer ei fod yn un o chwaraewyr gorau y Llewod yn y gemau hynny. Fodd bynnag, anafodd ei ysgwydd yn ddifrifol, ac ni allodd chwarae llawer o rygbi yn ystod
2006
, gyda'r problemau'n parhau yn
2007
.
Erbyn dechrau
2008
roedd yn ol i'w orau, a phan ddaeth
Warren Gatland
yn hyfforddwr Cymru, apwyntiodd Ryan Jones yn gapten. Dan ei arweiniad ef, enillwyd y Gamp Lawn eto. Cafodd gytundeb 2 flynedd gan dim
Rygbi Bryste
ym mis Mawrth, 2014 ond yn anffodus bu rhaid iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r gem ym mis Awst, 2015 oherwydd yr anaf diweddaraf i'w ysgwydd.
[1]
Yng Ngorffennaf 2022, yn 41 mlwydd oed, datgelodd ei fod wedi cael diagnosis o ddementia cynnar, yn dilyn diagnosis o Enseffalopathi Trawmatig Cronig yn Rhagfyr 2021.
[2]